2011 Rhif 2908 (Cy.312)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi1, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru'n unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno:

Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2011.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2011.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 20012

1

Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 20013 fel a ganlyn.

2

Rhodder y canlynol yn lle rheoliad 8—

8

1

Rhaid i'r Cyngor gynnwys ar Bwyllgor—

a

un neu ragor o aelodau lleyg; a

b

un neu ragor o aelodau sy'n athrawon cofrestredig.

2

Y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor yw tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig.

3

Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o'r Cyngor yn aelod o Bwyllgor.

4

Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o'r Pwyllgor Ymchwilio sy'n ymchwilio i achos yn aelod o'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol na'r Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol sy'n penderfynu ar yr achos hwnnw.

5

Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 20 a 22, caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth y mae'n barnu ei bod yn addas o ran y canlynol—

a

aelodaeth Pwyllgor;

b

ar ba delerau y mae aelodau'r Pwyllgor i ddal swydd ac ymadael â hi; ac

c

y weithdrefn ar gyfer Pwyllgor.

6

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “aelod lleyg” (“lay member”) yw aelod o'r Pwyllgor nad yw—

i

yn athro neu'n athrawes gofrestredig, neu

ii

yn gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes neu wedi bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen felly o fewn cyfnod o 5 mlynedd a ddaeth i ben ar y dyddiad y penodwyd y person hwnnw i'r Pwyllgor,

ac ni fydd aelod lleyg sy'n dod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n cymryd swydd athro neu athrawes neu'n cael ei gymryd ymlaen fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried bellach yn aelod lleyg;

b

ystyr “aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig” (“registered teacher member”) yw aelod o'r Pwyllgor—

i

sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig, a

ii

sy'n gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes ar y dyddiad y penodir y person hwnnw i'r Pwyllgor,

ac ni fydd aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac sy'n peidio â bod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n peidio â dal swydd athro neu athrawes neu'n gorffen cael ei gymryd ymlaen fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried bellach yn aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig.

Leighton AndrewsY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 drwy gael rheoliad 8 newydd sy'n gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a gweithdrefn Pwyllgorau Ymchwilio, Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol y Cyngor. Mae'r rheoliad 8 newydd yn darparu na all aelod o'r Cyngor fod yn aelod o unrhyw un o'r Pwyllgorau hynny.