Trefniadau trosiannol3
1
Dim ond mewn perthynas â'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol, ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod trosiannol, gan fferyllydd yr oedd ei enw, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, eisoes ar restr fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan y prif Reoliadau, y mae gan y rheoliad hwn effaith.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn ystod y cyfnod trosiannol nid yw'r fferyllydd wedi ei rwymo gan y canlynol—
a
unrhyw ddiwygiad penodol i baragraff 25 o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau a wneir gan reoliad 2(3), (4)(b), (5)(a) ac (c) a (7) os ydynt yn hytrach, wedi dewis cydymffurfio, a'u bod yn cydymffurfio, â'r ddarpariaeth a addaswyd neu a amnewidiwyd gan y diwygiad penodol hwnnw fel yr oedd yn cael effaith cyn y diwygiad penodol hwnnw; neu
b
y diwygiadau i baragraff 25 o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau a wneir gan reoliad 2(2), (4)(a), (5)(b), (6)(a) i (c) ac (8).
3
Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar ddyletswydd fferyllydd i wneud y canlynol—
a
cydymffurfio â pharagraff 25 o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau cyn diwedd y cyfnod trosiannol, fel y mae'n cael effaith fel arall; a
b
cydymffurfio â pharagraff 25 o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn, ar ddiwedd y cyfnod trosiannol ac ar ôl hynny.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod trosiannol” (“transitional period”) yw'r cyfnod sy'n cychwyn ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012.