Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2011.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2011.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 19922.