(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (O.S. 1992/662) (“y prif Reoliadau”) o ran telerau gwasanaethu'r GIG ar gyfer fferyllwyr, sydd wedi eu nodi yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau. Mae fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol y GIG wedi eu cynnwys mewn rhestr fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, a thelerau gwasanaethu'r GIG ar eu cyfer hwy yw'r telerau ar ba rai y maent wedi eu cynnwys yn y rhestr honno.

Mae rheoliad 2 yn diwygio darpariaethau telerau gwasanaethu'r GIG sy'n ymwneud â system dderbyniol o lywodraethu clinigol. Mae'n gosod rhwymedigaethau newydd, gan gynnwys gofyniad i fferyllydd gyflwyno hunanasesiad llywodraethu clinigol blynyddol, ac yn addasu rhwymedigaethau sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â defnyddio gwybodaeth.

Mae rheoliad 3 yn ddarpariaeth drosiannol sy'n caniatáu tan 31 Mawrth 2012 i fferyllwyr sydd ar restr fferyllol pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, addasu eu systemau llywodraethu clinigol i ymgymhwyso eu rhwymedigaethau newydd a'r rhai sydd wedi eu haddasu, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio, yn achos y rhwymedigaethau sydd wedi eu haddasu, gyda'r fersiwn o'r rhwymedigaeth a oedd yn bodoli cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.