xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 5 o'r prif Reoliadau yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd ymwelydd o dramor yn esempt rhag ffioedd am driniaeth y cododd yr angen amdani pan oedd yr ymwelydd o dramor yn ymweld â'r Deyrnas Unedig. Mae rheoliadau 2(2) a (3) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau i ddarparu esemptiad i unigolion sy'n rhan o Deulu'r Gemau yn ystod y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 rhwng 9 Gorffennaf 2012 a 12 Medi 2012.
Mae rheoliad 2(5) o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod Atodlen 3 newydd yn y prif Reoliadau, sy'n diffinio'r hyn a olygir gan “Games Family”.
Mae rheoliad 2(4) o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod Jersey yn y rhestr, yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau, o'r gwledydd neu'r tiriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dod i gytundeb cilyddol â hwy.