- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 2
Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac eithrio'r canlynol—
(a)y darn cyfan o'r A4060 o'i chyffordd â chylchfan Abercannaid ar yr A470 i'w chyffordd â chylchfan Dowlais ar yr A465, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Pentre-bach, cylchfan Parc Busnes Triangle a chylchfan Mountain Hare;
(b)y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 320 o fetrau i'r gogledd o gylchfan Abercynon ar yr A470 i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 895 o fetrau i'r gogledd o gylchfan Cefn Coed, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Abercannaid, cylchfan Rhyd-y-car a chylchfan Heol Abertawe;
(c)y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 351 o fetrau i'r de o'i chyffordd ag Upper High Street Cefn Coed ar yr A4054 i'r ffin â Sir Powys wrth Bont Llysiog; ac
(ch)y darn hwnnw o'r A465 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth bwynt oddeutu 550 o fetrau i'r dwyrain o gylchfan Dowlais Top ar yr A465 i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 13 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â Ffordd Merthyr ar y B4276, gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael a cherbytffordd gylchredol cylchfan Dowlais ar yr A465/A4060, cylchfan Dowlais Top ar yr A465 a chylchfan Cefn Coed.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: