Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2011
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru ar iddynt wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn perthynas â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2011 a daw i rym ar 11 Ionawr 2012.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig2.
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a)
ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b)
ardal gorfodi arbennig.
YR ATODLEN
Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac eithrio'r canlynol—
(a)
y darn cyfan o'r A4060 o'i chyffordd â chylchfan Abercannaid ar yr A470 i'w chyffordd â chylchfan Dowlais ar yr A465, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Pentre-bach, cylchfan Parc Busnes Triangle a chylchfan Mountain Hare;
(b)
y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 320 o fetrau i'r gogledd o gylchfan Abercynon ar yr A470 i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 895 o fetrau i'r gogledd o gylchfan Cefn Coed, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Abercannaid, cylchfan Rhyd-y-car a chylchfan Heol Abertawe;
(c)
y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 351 o fetrau i'r de o'i chyffordd ag Upper High Street Cefn Coed ar yr A4054 i'r ffin â Sir Powys wrth Bont Llysiog; ac
(ch)
y darn hwnnw o'r A465 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth bwynt oddeutu 550 o fetrau i'r dwyrain o gylchfan Dowlais Top ar yr A465 i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 13 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â Ffordd Merthyr ar y B4276, gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael a cherbytffordd gylchredol cylchfan Dowlais ar yr A465/A4060, cylchfan Dowlais Top ar yr A465 a chylchfan Cefn Coed.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i orfodi'r gyfraith am dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi'r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.