2011 Rhif 2868 (Cy.307)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 20041 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru2.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru ar iddynt wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn perthynas â rhan o'i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.