Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.
Cychwyn drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn2.
Yn ddarostyngedig i erthygl 3, mae'r Mesur yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn..
Cychwyn ar 1 Ionawr 20123.
Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Ionawr 2012—
(a)
Adran 2(2) (dyletswydd i weithredu strategaeth);
(b)
Adran 3(3) (gwybodaeth a chyngor yn unol â strategaeth i'w darparu'n ddi-dâl);
(c)
Adran 6(1) i (3) (cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru);
(ch)
Adran 7 (cyfle i'r cyhoedd gael gweld y strategaeth);
(d)
Adran 9 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 1970).
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.
Mae'r darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodedig i roi effaith i'r Mesur a dygir hwy i rym y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Mae'r darpariaethau a ddygir i rym yn erthygl 3 yn dod i rym ar 1 Ionawr 2012 ac maent yn gosod dyletswydd ar awdurdodau perthnasol i baratoi strategaeth a'i rhoi ar waith yn unol â'r Mesur. Rhaid i strategaethau gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid eu cyhoeddi a threfnu eu bod ar gael i'w harchwilio.
Ar 1 Ionawr 2012 bydd holl ddarpariaethau'r Mesur mewn grym.