Offerynnau Statudol Cymru
2011 No. 2842 (Cy.306) (C.100)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011
Gwnaed
23 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 10 a 11 o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.
Cychwyn drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn
2. Yn ddarostyngedig i erthygl 3, mae'r Mesur yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn..
Cychwyn ar 1 Ionawr 2012
3. Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Ionawr 2012—
(a)Adran 2(2) (dyletswydd i weithredu strategaeth);
(b)Adran 3(3) (gwybodaeth a chyngor yn unol â strategaeth i'w darparu'n ddi-dâl);
(c)Adran 6(1) i (3) (cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru);
(ch)Adran 7 (cyfle i'r cyhoedd gael gweld y strategaeth);
(d)Adran 9 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 1970).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2011
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.
Mae'r darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodedig i roi effaith i'r Mesur a dygir hwy i rym y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Mae'r darpariaethau a ddygir i rym yn erthygl 3 yn dod i rym ar 1 Ionawr 2012 ac maent yn gosod dyletswydd ar awdurdodau perthnasol i baratoi strategaeth a'i rhoi ar waith yn unol â'r Mesur. Rhaid i strategaethau gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid eu cyhoeddi a threfnu eu bod ar gael i'w harchwilio.
Ar 1 Ionawr 2012 bydd holl ddarpariaethau'r Mesur mewn grym.
