2011 Rhif 2831 (Cy.304)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 19861 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2011, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 21 Rhagfyr 2011.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

  • mae i “hectar cymwys” yr un ystyr a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;

  • ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol3;

  • ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 20064;

  • ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac

  • ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu gallu cynhyrchiol tir2

1

Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

2

Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o'r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—

a

yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

b

y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2011, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.

3

Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd yn hectar cymwys yn 2010 (gweler cofnod 5 yng ngholofn 1), yna—

a

yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

b

y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2011, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.

Dirymu3

Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 20105.

Alun DaviesY Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET

Erthygl 2

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Defnydd ffermio

Uned gynhyrchu

Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)

1. Da byw

Buchod godro

buwch

288

Buchod bridio cig eidion:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

buwch

−166

ar dir arall

buwch

−147

Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)

y pen

−80(1)

Buchod llaeth i lenwi bylchau

y pen

94(2)

Mamogiaid:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

mamog

−1

ar dir arall

mamog

3

Ŵyn stôr (gan gynnwys Ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)

y pen

3.60

Moch:

hychod a banwesod torrog

hwch neu fanwes

326

moch porc

y pen

10.10

moch torri

y pen

12.80

moch bacwn

y pen

15.30

Dofednod:

ieir dodwy

aderyn

3.70

brwyliaid

aderyn

0.30

cywennod ar ddodwy

aderyn

0.40

Tyrcwn Nadolig

aderyn

5.30

2. Cnydau âr fferm

Haidd

hectar

160

Ffa

hectar

78.19(3)

Rêp had olew

hectar

241

Pys sych

hectar

209.19(3)

Tatws:

cynnar cyntaf

hectar

2762

prif gnwd (gan gynnwys hadyd)

hectar

2023

Betys siwgr

hectar

640

Gwenith

hectar

374

3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau

Ffrwythau'r berllan

hectar

2850

Ffrwythau meddal

hectar

7350

4. Tir porthiant

Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd

hectar

swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006

5. Hectarau cymwys

Tir a oedd, yn 2010, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009

tir dan anfantais ddifrifol, ac eithrio rhostir

hectar

134.22

tir dan anfantais

hectar

173.11

pob tir arall

hectar

122.46

(1)

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

(2)

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

(3)

Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 79 o Reoliad y Cyngor 73/2009.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2011 i 11 Medi 2012, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2825 (Cy.232)).

Mae'n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu pa un a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawn amser sy'n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2010, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar fusnes na'r sector preifat na'r sector gwirfoddol.