Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2011, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 21 Rhagfyr 2011.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
mae i “hectar cymwys” yr un ystyr a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;
ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol3;
ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 20064;
ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac
ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir2
1
Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
2
Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o'r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—
a
yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
b
y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2011, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
3
Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd yn hectar cymwys yn 2010 (gweler cofnod 5 yng ngholofn 1), yna—
a
yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
b
y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2011, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
Dirymu3
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 20105.