- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/71/EEC ar adnabod a chofrestru moch (OJ Rhif L 213, 8.8.2008, t.31). Mae'n dirymu ac yn disodli Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1742) (Cy.172).
Y prif newid yw ei fod yn ei gwneud yn ofynnol rhaghysbysu cronfa ddata gyfrifiadurol ganolog ynghylch y rhan fwyaf o symudiadau moch.
Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n cadw moch ar ddaliad yn hysbysu Gweinidogion Cymru (erthygl 4) ac yn ei gwneud yn ofynnol cadw cofnod (erthygl 5 a'r Atodlen). Mae erthygl 24 yn darparu bod hawl gan arolygydd i weld y cofnodion hyn a gwneud yn ofynnol darparu copïau ohonynt.
Mae erthyglau 6 i 11 yn ei gwneud yn ofynnol marcio moch â thagiau clust neu datŵs ac yn pennu'r hyn y mae'n rhaid ei gynnwys yn y marciau adnabod hyn.
Mae erthyglau 12 i 20 yn ymdrin â'r gweithdrefnau ar gyfer hysbysu ynghylch symudiadau, a'r ddogfennaeth angenrheidiol.
Mae erthygl 21 yn caniatáu i Weinidogion Cymru eithrio rhai symudiadau rhag gofynion Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966) (Cy.211).
Mae erthyglau 22 a 23 yn rheoli tynnu ymaith ac amnewid marciau adnabod.
Gorfodir y Gorchymyn gan yr awdurdod lleol (erthygl 25).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o effeithiau'r Gorchymyn hwn ar gostau busnes a'r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac mae'r asesiad ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: