Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â phwerau Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol mewn perthynas â gwaith llifogydd ac erydu arfordirol atodol o dan adrannau 38 a 39, yn eu tro, o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29). Mae'r adrannau hynny yn galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol i wneud gwaith penodol er budd gwarchod natur, cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol neu fwynhad pobl o'r amgylchedd neu dreftadaeth ddiwylliannol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cymhwyso'r darpariaethau perthnasol o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p.57) sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, pwerau mynediad a iawndal i arfer y pwerau o dan adrannau 38 a 39.

Mae hefyd yn addasu cymhwysiad y darpariaethau hynny at ddibenion adran 38 fel—

(a)na all Asiantaeth yr Amgylchedd arfer y pwerau prynu gorfodol ond at y diben o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan Gyfarwyddebau UE penodol a enwyd;

(b)bod rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol roi 7 niwrnod o rybudd cyn arfer eu pwerau mynediad mewn perthynas â thir amaethyddol (ac eithrio mewn argyfwng).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Mae copi ar gael gan: Is-adran Mannau Cynaliadwy, Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ