2011 Rhif 2829 (Cy.302)
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38(8) a 39(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20101 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adrannau 38(9)(b) a 39(13)(b) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.

Dehongli2.

Yn y Gorchymyn hwn—

(a)

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Adnoddau Dŵr 19912; a

(b)

ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau prynu gorfodol i adran 38 o Ddeddf 20103.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae adran 154 o Ddeddf 19913 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) o Ddeddf 1991 yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.

(2)

Mae adran 157 o Ddeddf 19914 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;

(b)

bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor; a

(c)

bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor.

(3)

Ni chaiff awdurdodiad ei roi i Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 154 o Ddeddf 1991, fel y'i cymhwysir gan baragraff (1), ond at y dibenion o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan y canlynol—

(a)

y Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno neu bolisïau o dan Erthygl 10 o'r Gyfarwyddeb honno;

(b)

y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr mewn perthynas ag unrhyw amcanion amgylcheddol; neu

(c)

y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthyglau 2, 3 neu 4 o'r Gyfarwyddeb honno.

(4)

Yn yr erthygl hon—

(a)

mae i “amcanion amgylcheddol” yr un ystyr ag “environmental objectives” yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr;

(b)

ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt5;

(c)

ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr” (“the Water Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu ym maes polisi dŵr6; a

(ch)

ystyr “y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt” (“the Wild Birds Directive”) yw Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt7.

Cymhwyso'r darpariaethau prynu gorfodol i adran 39 o Ddeddf 20104.

(1)

Mae adran 154 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 154(1);

(b)

bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;

(c)

bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)

yn y man lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 154(1);

(ii)

yn y man lle y maent yn ymddangos yn adran 154(2), (3) a (4); a

(iii)

yn y man lle y maent yn ymddangos am yr ail a'r trydydd tro yn adran 154(6); ac

(ch)

mae i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(2)

Mae adran 157 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(1);

(b)

bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(2)(a) a (6);

(c)

bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;

(ch)

bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor;

(d)

bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor; ac

(dd)

bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn 39(6) o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau pŵer mynediad i adran 38 o Ddeddf 20105.

(1)

Mae adran 170 o Ddeddf 19918 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 38 o Ddeddf 2010.

(2)

Mae adran 171 o Ddeddf 19919 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010; a

(b)

bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor.

(3)

Mae Atodlen 20 i Ddeddf 199110 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd gan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;

(b)

bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);

(c)

bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(ch)

bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(d)

bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;

(dd)

bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor; ac

(e)

bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991.

Cymhwyso'r darpariaethau pŵer mynediad i adran 39 o Ddeddf 20106.

(1)

Mae adran 170 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)

lle y maent yn ymddangos yn adran 170(1); a

(ii)

lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 170(3);

(b)

bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)

lle y maent yn ymddangos yn adran 170(2); a

(ii)

lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 170(3);

(c)

bod y cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 39 o Ddeddf 2010; ac

(ch)

bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(2)

Mae adran 171 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(1);

(b)

bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(2)(a) a (3)(c);

(c)

bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;

(ch)

bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor; a

(d)

bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(3)

Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd o dan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;

(b)

bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);

(c)

bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(ch)

bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(d)

bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;

(dd)

bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle “the Agency” ym mharagraffau 6(3)(b) ac 8;

(e)

bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor;

(f)

bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991; ac

(ff)

bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau iawndal i adran 38 o Ddeddf 20107.

Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 199111 yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriadau at y pwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau iawndal i adran 39 o Ddeddf 20108.

Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf;

(b)

bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos am yr eildro;

(c)

bod y cyfeiriad at bwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 39 o Ddeddf 2010; ac

(ch)

bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â phwerau Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol mewn perthynas â gwaith llifogydd ac erydu arfordirol atodol o dan adrannau 38 a 39, yn eu tro, o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29). Mae'r adrannau hynny yn galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol i wneud gwaith penodol er budd gwarchod natur, cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol neu fwynhad pobl o'r amgylchedd neu dreftadaeth ddiwylliannol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cymhwyso'r darpariaethau perthnasol o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p.57) sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, pwerau mynediad a iawndal i arfer y pwerau o dan adrannau 38 a 39.

Mae hefyd yn addasu cymhwysiad y darpariaethau hynny at ddibenion adran 38 fel—

(a)

na all Asiantaeth yr Amgylchedd arfer y pwerau prynu gorfodol ond at y diben o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan Gyfarwyddebau UE penodol a enwyd;

(b)

bod rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol roi 7 niwrnod o rybudd cyn arfer eu pwerau mynediad mewn perthynas â thir amaethyddol (ac eithrio mewn argyfwng).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Mae copi ar gael gan: Is-adran Mannau Cynaliadwy, Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ