Cymhwyso'r darpariaethau iawndal i adran 38 o Ddeddf 2010

7.  Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 1991(1) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriadau at y pwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.

(1)

Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 wedi eu diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128, ac O.S. 2009/1307. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.