Cymhwyso'r darpariaethau pŵer mynediad i adran 39 o Ddeddf 20106.

(1)

Mae adran 170 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)

lle y maent yn ymddangos yn adran 170(1); a

(ii)

lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 170(3);

(b)

bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)

lle y maent yn ymddangos yn adran 170(2); a

(ii)

lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 170(3);

(c)

bod y cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 39 o Ddeddf 2010; ac

(ch)

bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(2)

Mae adran 171 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(1);

(b)

bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(2)(a) a (3)(c);

(c)

bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;

(ch)

bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor; a

(d)

bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(3)

Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)

bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd o dan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;

(b)

bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);

(c)

bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(ch)

bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(d)

bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;

(dd)

bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle “the Agency” ym mharagraffau 6(3)(b) ac 8;

(e)

bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor;

(f)

bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991; ac

(ff)

bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.