Cymhwyso'r darpariaethau prynu gorfodol i adran 39 o Ddeddf 2010

4.—(1Mae adran 154 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 154(1);

(b)bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;

(c)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)yn y man lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 154(1);

(ii)yn y man lle y maent yn ymddangos yn adran 154(2), (3) a (4); a

(iii)yn y man lle y maent yn ymddangos am yr ail a'r trydydd tro yn adran 154(6); ac

(ch)mae i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(2Mae adran 157 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(1);

(b)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(2)(a) a (6);

(c)bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;

(ch)bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor;

(d)bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor; ac

(dd)bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn 39(6) o Ddeddf 2010.