Cymhwyso'r darpariaethau prynu gorfodol i adran 38 o Ddeddf 2010

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae adran 154 o Ddeddf 1991(1) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) o Ddeddf 1991 yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.

(2Mae adran 157 o Ddeddf 1991(2) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;

(b)bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor; a

(c)bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor.

(3Ni chaiff awdurdodiad ei roi i Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 154 o Ddeddf 1991, fel y'i cymhwysir gan baragraff (1), ond at y dibenion o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan y canlynol—

(a)y Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno neu bolisïau o dan Erthygl 10 o'r Gyfarwyddeb honno;

(b)y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr mewn perthynas ag unrhyw amcanion amgylcheddol; neu

(c)y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthyglau 2, 3 neu 4 o'r Gyfarwyddeb honno.

(4Yn yr erthygl hon—

(a)mae i “amcanion amgylcheddol” yr un ystyr ag “environmental objectives” yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr;

(b)ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(3);

(c)ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr” (“the Water Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu ym maes polisi dŵr(4); a

(ch)ystyr “y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt” (“the Wild Birds Directive”) yw Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt(5).

(1)

Mae adran 154 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraffau 128 a 157. Rhoddwyd y swyddogaethau i'r Gweinidogion, sydd wedi eu diffinio yn adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 fel yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

Mae adran 157 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraffau 128 a 159. Rhoddwyd y swyddogaethau i'r Gweinidogion, sydd wedi eu diffinio yn adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 fel yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.368).

(4)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar storio daearegol carbon deuocsid (OJ Rhif L 140, 5.6.2009, t.114).

(5)

OJ Rhif L 20, 26.1.2010, t.7.