Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2011
Enwi, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2011.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn—
(a)
ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010;
(b)
(c)
ystyr "blwyddyn ariannol 2011/2012" ("2011/2012 financial year") yw 1 Ebrill 2011 hyd at 31 Mawrth 2012 gan gynnwys y dyddiadau hynny.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 20122.
Yn ddarostyngedig i erthyglau 3 a 4, daw darpariaethau'r Mesur i rym i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym fel a ganlyn—
(1)
adrannau 4(3) a 5(4) ar 28 Tachwedd 2011;
(2)
gweddill yr adrannau ar 1 Ebrill 2012.
Darpariaeth drosiannol3.
(1)
O ran y flwyddyn ariannol 2011/2012 mae rhwymedigaethau Bwrdd Ardollau Cymru o dan erthyglau 13(3)(b) (paratoi cyfrifon) a 13(4) (cyflwyno cyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru) o'r Gorchymyn Ardollau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
(2)
Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw unrhyw faterion sy'n codi o'r cyfrifon sy'n gofyn am weithredu pellach.
Darpariaeth arbed4.
O ran y cyfrifon a baratowyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011/2012, mae rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan erthygl 13(5) (archwilio, ardystio, adrodd ar gyfrifon a'u gosod) o'r Gorchymyn Ardollau yn parhau i fod yn effeithiol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (mccc 3) ("y Mesur").
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym erthyglau 4(3) a 5(4) ar 28 Tachwedd 2011. Mae gweddill darpariaethau'r Mesur, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol am baratoi a chyflwyno cyfrifon Bwrdd Ardollau Cymru am y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2012 ("blwyddyn ariannol 2011/2012") i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw paratoi'r cyfrifon hynny ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaeth arbed sy'n cadw rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i archwilio, ardystio, ac adrodd ar gyfrifon Bwrdd Ardollau Cymru am y flwyddyn ariannol 2011/2012 ynghyd â'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.