Offerynnau Statudol Cymru
2011 Rhif 2684 (Cy.287)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011
Wedi'u gwneud
5 Tachwedd 2011
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Tachwedd 2011
Yn dod i rym
30 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 78(2)(d) a (3), 80(8) a (9), 84(2), 92(3) a (7) a 178 (1) (a), (b), (c) a 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(3).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran mangreoedd yng Nghymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;
ystyr “landlord”, (“landlord”) o ran mangre RTM, yw person sy'n landlord o dan brydles ar y cyfan o'r fangre neu unrhyw ran ohoni(4);
ystyr “mangre RTM” (“RTM premises”) yw mangre y mae cwmni Hawl i Reoli (“cwmni RTM”) yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn perthynas â hi(5);
ystyr “trydydd parti” (“third party”), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n barti i brydles ar y cyfan o'r fangre neu unrhyw ran ohoni heblaw fel landlord neu denant(6).
Cynnwys ychwanegol yr hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan
3.—(1) Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan gynnwys, yn ychwanegol at y datganiadau a'r wybodaeth y cyfeirir atynt yn adran 78(2)(a) i (c) o Ddeddf 2002 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)rhif cofrestredig y cwmni RTM(7), cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr ac, os yw hynny'n gymwys, enw ei ysgrifennydd;
(b)enw'r landlord ac enw unrhyw drydydd parti;
(c)datganiad y bydd y cwmni RTM, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), yn gyfrifol am y canlynol, os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli—
(i)cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y brydles; a
(ii)arfer pwerau'r landlord o dan y brydles,
o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;
(ch)datganiad y caiff y cwmni RTM orfodi cyfamodau tenant na chawsant eu trosglwyddo, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli(8);
(d)datganiad na fydd y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac am arfer pwerau'r landlord o dan y brydles—
(i)ynglŷn â mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i brydles sy'n cael ei dal gan denant cymwys(9); neu
(ii)ynglŷn ag ailfynediad neu fforffediad;
(dd)datganiad y bydd gan y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;
(e)datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl fel y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli; ac—
(i)os yw yn bwriadu gwneud hynny, datganiad—
(aa)o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os ydynt yn hysbys); a
(bb)os yw hyn yn wir, mai'r person yw asiant rheoli'r landlord; neu
(ii)os nad yw'n bwriadu gwneud hynny, y cymwysterau neu'r profiad (os oes rhai) sydd gan aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;
(f)datganiad y gall person sy'n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni RTM fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio(10);
(ff)datganiad sy'n cynghori'r sawl sy'n cael yr hysbysiad (yn gwahodd cymryd rhan) i geisio cymorth proffesiynol os nad yw'n llwyr ddeall diben neu oblygiadau'r hysbysiad; ac
(g)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad hawlio
4. Yn ychwanegol at y manylion sy'n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002, rhaid i hysbysiad hawlio gynnwys—
(a)datganiad bod person—
(i)nad yw'n dadlau â hawlogaeth y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli(11); a
(ii)sy'n barti rheoli o dan gontract rheoli(12) sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio,
yn gorfod rhoi hysbysiad, yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2002 (dyletswyddau i roi hysbysiad o gontractau), i'r cwmni RTM ac i'r person sy'n barti contractiwr(13);
(b)datganiad bod gan landlordiaid o dan brydlesau ar y cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi hawlogaeth i fod yn aelodau o'r cwmni RTM o'r dyddiad caffael(14) ymlaen;
(c)datganiad nad yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb mewn unrhyw fanylion sy'n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu'r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir—
(i)nodi'r manylion dan sylw i'r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a
(ii)dangos ym mha fodd y bernir eu bod yn anghywir;
(ch)datganiad sy'n cynghori person sy'n cael yr hysbysiad ond nad yw'n llwyr ddeall diben yr hysbysiad i geisio cymorth proffesiynol; a
(d)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad
5. Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato yn adran 84(2)(a) a (b) (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002)—
(a)datganiad y caiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am benderfyniad bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio;
(b)datganiad nad yw'r cwmni RTM, os yw wedi cael un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, yn caffael yr hawl i reoli'r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio oni bai—
(i)y penderfynir yn derfynol(15) pan wneir cais i dribiwnlys prisio lesddaliad fod gan y cwmni hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli'r fangre; neu
(ii)bod y person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu'r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno, mewn ysgrif, fod gan y cwmni yr hawlogaeth honno; ac
(c)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad contractiwr
6.—(1) Rhaid i hysbysiad contractiwr(16) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(3)(a) i (d) (dyletswyddau i roi hysbysiadau o gontractau) o Ddeddf 2002) ddatganiad yn cynghori'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo i gysylltu â'r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad os yw'n dymuno darparu i'r cwmni RTM wasanaethau y mae wedi'u darparu, fel y parti contractiwr i'r parti rheolwr o dan y contract; a
(2) yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad contract
7. Rhaid i hysbysiad contract(17) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(7)(a) o Ddeddf 2002)—
(a)cyfeiriad y person sy'n barti contractiwr, neu'n barti is-gontractiwr(18), o dan y contract y rhoddir manylion amdano yn yr hysbysiad;
(b)datganiad sy'n cynghori'r cwmni RTM y dylai gysylltu â'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad, os yw'n dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, wedi'u darparu i'r parti rheolwr o dan y contract hwnnw; ac
(c)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn.
Ffurf yr hysbysiadau
8.—(1) Rhaid i hysbysiadau sy'n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 3.
(2) Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 4.
(3) Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 5.
(4) Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 6.
(5) Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 7.
Dirymu a darpariaethau trosiannol
9.—(1) Mae Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004(19) (“Rheoliadau 2004”) wedi'u dirymu.
(2) Trinnir unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Reoliadau 2004 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny fel pe bai wedi'i gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
5 Tachwedd 2011
Rheoliadau 3 ac 8(1)
ATODLEN 1FFURF HYSBYSIAD YN GWAHODD CYMRYD RHAN
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad o wahoddiad i gymryd rhan yn yr hawl i reoli
Rheoliadau 4 ac 8(2)
ATODLEN 2FFURF HYSBYSIAD HAWLIO
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Hawlio
Rheoliadau 5 ac 8(3)
ATODLEN 3FFURF GWRTH-HYSBYSIAD
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Gwrth-hysbysiad
Rheoliad 6 ac 8(4)
ATODLEN 4FFURF HYSBYSIAD CONTRACTIWR
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Contractiwr
Rheoliad 7 ac 8(5)
ATODLEN 5FFURF HYSBYSIAD CONTRACT
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Contract
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cydategu Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”). Mae'r Bennod honno'n gwneud darpariaeth ar gyfer caffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangre y mae'r Bennod yn gymwys iddi gan gwmni y caniateir iddo gaffael ac arfer yr hawliau hynny (sef cwmni sy'n cael ei adnabod fel cwmni Hawl i Reoli neu “cwmni RTM”).
Penderfynwyd dirymu a disodli'r rheoliadau presennol, sef Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/678) yn hytrach na'u diwygio. Y rheswm am hyn oedd bod Gweinidogion Cymru'n cydnabod bod y Rheoliadau hyn yn debyg o gael eu defnyddio gan bobl nad oes cyngor proffesiynol ar gael ganddyn nhw. Barn Gweinidogion Cymru yw y byddai'n peri dryswch petai'r ceiswyr yn defnyddio dwy set o reoliadau er mwyn sefydlu eu cwmni RTM.
Cyn y gall cwmni RTM gaffael yr hawl i reoli mangre, rhaid iddo roi hysbysiad (“hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan”) i'r tenantiaid hynny mewn fflatiau yn y fangre sy'n “denantiaid cymwys” (gweler adran 75 o Ddeddf 2002) fod y cwmni'n bwriadu caffael yr hawl. Rhaid i'r hysbysiad wahodd y rhai sy'n ei gael i ddod yn aelodau o'r cwmni RTM. Mae Rheoliad 3, y mae Atodlen 1 yn berthnasol iddo hefyd, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys yr hysbysiad, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 78 o Ddeddf 2002.
Pan fydd y cwmni RTM wedi rhoi hysbysiad yn gwahodd tenantiaid i gymryd rhan, mae'n cael gwneud hawliad i gaffael yr hawl i reoli. Mae'n ofynnol i'r hawliad gael ei wneud drwy gyfrwng hysbysiad (“hysbysiad hawlio”), sef hysbysiad sy'n gorfod cael ei roi i bob person—
(a)sy'n landlord o dan brydles ar y cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(b)sy'n barti i brydles o'r fath heblaw fel landlord neu denant; neu
(c)sy'n rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â'r fangre, neu ag unrhyw fangre sy'n cynnwys y fangre neu a gynhwysir ynddi.
Mae rheoliad 4, y mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys yr hysbysiad hawlio, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 80 o Ddeddf 2002.
Caiff person sy'n cael hysbysiad hawlio ymateb drwy roi gwrth-hysbysiad i'r cwmni RTM, sef gwrth-hysbysiad y bydd hawliad y cwmni RTM naill ai yn cael ei addef neu yn cael ei wrthwynebu ynddo. Mae Rheoliad 5, y mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys y gwrth-hysbysiad. Mae'r rhain yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 84 o Ddeddf 2002.
Os yw person sydd â hawlogaeth i gael hysbysiad hawlio hefyd yn barti i gontract y mae'r parti arall i'r contract yn cytuno i ddarparu gwasanaethau odano, neu'n cytuno i wneud pethau eraill odano, mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy'n ymwneud â swyddogaeth a fydd yn swyddogaeth i'r cwmni RTM pan fydd wedi caffael yr hawl i reoli'r fangre, mae'n rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad i'r parti arall i'r contract (“hysbysiad contractiwr”) ac i'r cwmni RTM (“hysbysiad contract”). Mae Rheoliadau 6 a 7, y mae Atodlenni 4 a 5 yn y drefn honno yn gymwys iddynt yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys hysbysiadau contractiwr a hysbysiadau contract, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 92 o Ddeddf 2002.
Mae Rheoliad 8 yn cyflwyno'r Atodlenni sy'n darparu templedi o ffurflenni ar gyfer y gwahoddiad i gymryd rhan, yr hysbysiad hawlio, y gwrth-hysbysiad, yr hysbysiad contractiwr a'r hysbysiad contract. Mae Rheoliad 8 yn caniatáu i ffurflenni sydd â'r un effaith gael eu defnyddio, ar yr amod eu bod yn cynnwys y manylion rhagnodedig perthnasol.
Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae'r swyddogaethau a arferid o'r blaen gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr “awdurdod cenedlaethol priodol” o dan adran 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Cyfarwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(b), Atodlen 1, i'r pŵer yn adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 fod yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw un o Weinidogion y Goron yr oedd y pŵer yn arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 iddi.
I gael y diffiniad o “landlord” gweler hefyd adran 112(2), (3) a (5) o Ddeddf 2002.
Gweler adrannau 71(1) a 73 o Ddeddf 2002. O ran “right to manage” gweler adran 71(2) o Ddeddf 2002.
Gweler adran 112(2), (3) a (5) o Ddeddf 2002.
Gweler adran 1066 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p.46).
Gweler adran 100(4) o Ddeddf 2002.
O ran mangreoedd y mae Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddynt, gweler adran 72 (ac Atodlen 6). O ran “flat” ac “unit” gweler adran 112(1). O ran “lease” gweler adran 112(2). O ran “qualifying tenant” gweler adrannau 75 a 112(4) a (5).
Gweler adran 79(1) o Ddeddf 2002.
O ran yr amgylchiadau lle nad oes dadl am yr hawl, gweler adran 90(3) o Ddeddf 2002.
Gweler adran 91(2) a (4) o Ddeddf 2002.
Gweler adran 91(2)(b) o Ddeddf 2002.
Gweler adran 90 o Ddeddf 2002.
Gweler adran 84(7) ac (8) o Ddeddf 2002.
Gweler adran 92(1)(a) o Ddeddf 2002.
Gweler adran 92(1)(b) o Ddeddf 2002.
Gweler adran 92(4) o Ddeddf 2002.
