Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2011.
(2)
Diwygio Rheoliadau 2007
2.
Diwygir Rheoliadau 2007 fel a ganlyn.
3.
“Swyddogaethau o ran llunio a gweithredu strategaeth3.
(1)
Mae grŵp strategaeth i fod ar gyfer pob ardal, a'i swyddogaethau fydd—
(a)
paratoi asesiadau strategol; a
(b)
paratoi a gweithredu cynllun partneriaeth,
ar gyfer yr ardal honno ar ran yr awdurdodau cyfrifol.
(2)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i'r grŵp strategaeth gynnwys dau neu ragor o bersonau a benodwyd gan un neu ragor o'r awdurdodau cyfrifol yn yr ardal.
(3)
Os oes mwy nag un awdurdod cyfrifol o'r math a bennir yn adran 5(1)(aa) o Ddeddf 1998 yn yr ardal, rhaid i'r darparwyr hynny benodi ar y cyd un neu ragor o bersonau i'r grŵp strategaeth.
(4)
Mewn cyfarfod o grŵp strategaeth, caiff personau fod yn bresennol sy'n cynrychioli personau a chyrff sy'n cydweithredu ac yn cymryd rhan, ac unrhyw bersonau eraill a wahoddir gan y grŵp strategaeth.
(5)
Rhaid bod gan y grŵp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu adolygiad o wariant arian partneriaeth ac i asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y cyfryw wariant.”.
4.
Yn rheoliad 9(a) hepgorer y geiriau “yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2)”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu yn rheoliad 3 ar gyfer amnewid rheoliad 3 o Reoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”), gan roi effaith i hynny o 5 Rhagfyr 2011 ymlaen. Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2007 yn ymwneud ag aelodaeth a threfniadau cyfarfod grŵp strategaeth ar gyfer pob ardal llywodraeth leol, sydd â'r swyddogaeth o baratoi asesiadau strategol yn unol â rheoliadau 5 i 7 a pharatoi cynllun partneriaeth yn unol â rheoliadau 8 a 9.
Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn hepgor y gofyniad ynglŷn â chyfnod o dair blynedd yn rheoliad 9(a) o Reoliadau 2007, mewn cysylltiad â chynllun partneriaeth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.