- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
Gwnaed
1 Tachwedd 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Tachwedd 2011
Yn dod i rym
5 Rhagfyr 2011
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2011.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“2007 Regulations”) yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007(3).
2. Diwygir Rheoliadau 2007 fel a ganlyn.
3. Yn lle rheoliad 3 rhodder—
3.—(1) Mae grŵp strategaeth i fod ar gyfer pob ardal, a'i swyddogaethau fydd—
(a)paratoi asesiadau strategol; a
(b)paratoi a gweithredu cynllun partneriaeth,
ar gyfer yr ardal honno ar ran yr awdurdodau cyfrifol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i'r grŵp strategaeth gynnwys dau neu ragor o bersonau a benodwyd gan un neu ragor o'r awdurdodau cyfrifol yn yr ardal.
(3) Os oes mwy nag un awdurdod cyfrifol o'r math a bennir yn adran 5(1)(aa) o Ddeddf 1998 yn yr ardal, rhaid i'r darparwyr hynny benodi ar y cyd un neu ragor o bersonau i'r grŵp strategaeth.
(4) Mewn cyfarfod o grŵp strategaeth, caiff personau fod yn bresennol sy'n cynrychioli personau a chyrff sy'n cydweithredu ac yn cymryd rhan, ac unrhyw bersonau eraill a wahoddir gan y grŵp strategaeth.
(5) Rhaid bod gan y grŵp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu adolygiad o wariant arian partneriaeth ac i asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y cyfryw wariant.”.
4. Yn rheoliad 9(a) hepgorer y geiriau “yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2)”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu yn rheoliad 3 ar gyfer amnewid rheoliad 3 o Reoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”), gan roi effaith i hynny o 5 Rhagfyr 2011 ymlaen. Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2007 yn ymwneud ag aelodaeth a threfniadau cyfarfod grŵp strategaeth ar gyfer pob ardal llywodraeth leol, sydd â'r swyddogaeth o baratoi asesiadau strategol yn unol â rheoliadau 5 i 7 a pharatoi cynllun partneriaeth yn unol â rheoliadau 8 a 9.
Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn hepgor y gofyniad ynglŷn â chyfnod o dair blynedd yn rheoliad 9(a) o Reoliadau 2007, mewn cysylltiad â chynllun partneriaeth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
1998 p. 37; amnewidiwyd adran 6 gan adran 22 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p. 48) a pharagraff 3 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno, a diwygiwyd hi gan adran 108(4) a (5) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: