xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2660 (Cy.284)

CYFRAITH TROSEDD, CYMRU

Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

1 Tachwedd 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Tachwedd 2011

Yn dod i rym

5 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 6(2), (3), (4) a (9)(b) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

(1)

1998 p. 37; amnewidiwyd adran 6 gan adran 22 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p. 48) a pharagraff 3 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno, a diwygiwyd hi gan adran 108(4) a (5) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).