Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2011
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2011.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Diwygio Rheoliadau 19922.
(1)
Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.
(2)
Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
YR ATODLEN
“SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area
Prescribed figure
Blaenau Gwent
54,004
Bridgend
105,929
Caerphilly
134,673
Carmarthenshire
143,689
Cardiff
272,304
Ceredigion
63,698
Conwy
89,004
Denbighshire
76,881
Flintshire
117,823
Gwynedd
95,280
Isle of Anglesey
54,571
Merthyr Tydfil
43,525
Monmouthshire
69,652
Neath Port Talbot
109,040
Newport
108,804
Pembrokeshire
92,272
Powys
105,181
Rhondda Cynon Taf
184,181
Swansea
187,410
Torfaen
70,994
Vale of Glamorgan (The)
97,332
Wrexham
105,385”
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle'r un bresennol.