- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
31 Hydref 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Tachwedd 2011
Yn dod i rym
22 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 19(3)(b) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011 ac fe ddaw i rym ar 22 Tachwedd 2011.
2.—(1) Mae Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 2 (y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiad) rhodder—
“In respect of financial years beginning on or after 1 April 2011 copies of a report issued in accordance with section 19(2) of the Measure must be sent by 31 January in the financial year during which the audit was carried out or to which the assessment relates.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
31 Hydref 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 17 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad er mwyn penderfynu a yw awdurdod gwella Cymreig wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15 o'r Mesur.
Mae adran 18 o'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal asesiad mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol er mwyn penderfynu a yw awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o'r Mesur.
Mae adran 19 o'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyroddi adroddiad archwilio ac asesu mewn cysylltiad ag awdurdod gwella Cymreig ac i'w anfon at Weinidogion Cymru a'r awdurdod gwella Cymreig o dan sylw.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010 drwy ddarparu, mewn cysylltiad â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011, mai 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol y cynhaliwyd yr archwiliad ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi fydd y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon yr adroddiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: