Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011
Mae drafft o'r offeryn hwn wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 143(3DB) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a'i gymeradwyo gan benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011.
(2)
Daw'r Rheoliadau hyn i rym—
(a)
(b)
at bob diben arall ar 3 Ionawr 2012.
(3)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “darparydd gwasanaethau eiriolaeth” (“provider of advocacy services”) yw corff neu berson, gan gynnwys corff gwirfoddol, sy'n cyflogi personau y trefnir eu bod ar gael i weithredu fel EIMA;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;
ystyr “EIMA” (“IMHA”) yw eiriolwr iechyd meddwl annibynnol; ac
Trefniadau ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol3.
(1)
Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud y trefniadau hynny y mae o'r farn eu bod yn rhesymol i alluogi EIMAau i fod ar gael i weithredu ynghylch claf cymwys Cymreig dan orfodaeth—
(a)
sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig, p'un a yw mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig sydd o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, ac y mae'n bresennol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar yr adeg pan ddarperir gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol;
(b)
sy'n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf neu sy'n glaf cymunedol ac y mae'n bresennol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar yr adeg pan ddarperir gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol; neu
(c)
sy'n gymwys o dan adran 130I(3) o'r Ddeddf ac y mae'n bresennol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar yr adeg pan ddarperir gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol.
(2)
Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud y trefniadau hynny y mae o'r farn eu bod yn rhesymol i alluogi EIMAau i fod ar gael i weithredu ynghylch claf anffurfiol cymwys Cymreig sy'n bresennol mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig sydd o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar yr adeg pan ddarperir gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol.
(3)
Wrth wneud trefniadau o dan baragraffau (1) a (2) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eiriolaeth.
(4)
Wrth wneud trefniadau o dan baragraffau (1) a (2) rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi sylw i amgylchiadau amrywiol (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i anghenion ethnig, ieithyddol, diwylliannol a demograffig) cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymreig y caniateir i'r Bwrdd Iechyd Lleol arfer y swyddogaethau hynny mewn cysylltiad â hwy.
(5)
Ni chaiff neb weithredu fel EIMA onid yw'r person hwnnw wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu wedi ei gyflogi i weithredu fel EIMA gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gydag ef o dan baragraff (3).
(6)
Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (5) rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gael ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4 a'r gofynion annibyniaeth yn rheoliad 5.
(7)
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth y mae'n gwneud trefniadau gydag ef o dan baragraff (3), yn unol â thelerau'r trefniant hwnnw, sicrhau bod unrhyw berson—
(a)
sy'n gyflogedig gan y darparydd gwasanaethau eiriolaeth hwnnw; a
(b)
y trefnwyd ei fod ar gael i weithredu fel EIMA,
yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4 a'r gofynion annibyniaeth yn rheoliad 5.
(8)
Yn y rheoliad hwn mae person yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth os yw'r person hwnnw—
(a)
yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth o dan gontract gwasanaeth; neu
(b)
wedi ei gymryd ymlaen gan y darparydd gwasanaethau eiriolaeth o dan gontract am wasanaethau.
Gofynion penodi ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol4.
(1)
Y gofynion penodi y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(6) a (7) yw—
(a)
bod gan berson brofiad neu hyfforddiant priodol neu gyfuniad priodol o brofiad a hyfforddiant;
(b)
bod person yn unplyg ac o gymeriad da; ac
(c)
nad yw person yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y penodiad ar gyfer ei ardal.
(2)
Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(a) rhaid rhoi sylw i safonau yn unrhyw Godau Ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 118 (codau ymarfer) o'r Ddeddf, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.
(3)
At ddibenion paragraff (2) caniateir i safonau gynnwys unrhyw gymwysterau y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu eu bod yn briodol.
(4)
(a)
pan fo person i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymreig nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed, wybodaeth ynghylch addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA o Ddeddf yr Heddlu 1997); a
(b)
pan fo person i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymreig sydd wedi cyrraedd 18 oed, wybodaeth ynghylch addasrwydd mewn perthynas â phersonau hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB o Ddeddf yr Heddlu 1997).
Gofynion annibyniaeth ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol5.
(1)
Y gofynion annibyniaeth y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(6) a (7) yw, i'r graddau y mae'n ymarferol, bod rhaid i berson allu gweithredu'n annibynnol o unrhyw unigolyn—
(a)
sy'n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys Cymreig dan orfodaeth neu'r claf anffurfiol cymwys Cymreig;
(b)
sy'n gofyn i'r person hwnnw i ymweld â'r claf cymwys Cymreig dan orfodaeth neu'r claf anffurfiol cymwys Cymreig neu ei gyf-weld.
(2)
Yn achos claf cymwys Cymreig dan orfodaeth a gafodd ei dderbyn ar gyfer asesiad o dan adran 4 (derbyn ar gyfer asesiad mewn achosion brys) o'r Ddeddf, yn ychwanegol at y gofynion ym mharagraff (1) rhaid i berson allu gweithredu—
(a)
yn annibynnol o'r proffesiynolyn iechyd meddwl a gymeradwywyd neu'r berthynas agosaf a wnaeth y cais iddo gael ei dderbyn yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf; a
(b)
yn annibynnol o'r meddyg a ddarparodd yr argymhelliad meddygol yn unol ag adran 4(3) o'r Ddeddf,
pan na fo'r personau a bennir yn (a) a (b) hefyd yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys Cymreig dan orfodaeth.
(3)
(a)
yn gweithredu, neu wedi gweithredu unwaith neu fwy nag unwaith, fel EIMA i'r claf yn unol ag adrannau 130F (trefniadau o dan adran 130E ar gyfer cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth) neu 130G (trefniadau o dan adran 130E ar gyfer cleifion anffurfiol cymwys Cymreig) o'r Ddeddf; neu
(b)
yn cynrychioli neu'n cynorthwyo, neu wedi cynrychioli neu gynorthwyo, y claf ac eithrio yn unol ag adrannau 130F neu 130G o'r Ddeddf, ond fel arall heb ymwneud â thriniaeth y claf.
Personau y caniateir iddynt gael ymweliad neu gael eu cyf-weld gan EIMA at ddibenion darparu cymorth i glaf cymwys Cymreig dan orfodaeth a gafodd ei dderbyn o dan adran 4 (derbyn ar gyfer asesiad mewn achosion brys) o'r Ddeddf6.
Yn achos claf cymwys Cymreig dan orfodaeth a gafodd ei dderbyn ar gyfer asesiad o dan adran 4 o'r Ddeddf, caniateir i'r EIMA ymweld â'r canlynol a'u cyf-weld—
(a)
y proffesiynolyn iechyd meddwl a gymeradwywyd neu'r berthynas agosaf a wnaeth y cais iddo gael ei dderbyn yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf; a
(b)
y meddyg a ddarparodd yr argymhelliad meddygol yn unol ag adran 4(3) o'r Ddeddf
pan na fo'r personau a bennir yn (a) a (b) hefyd yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys Cymreig dan orfodaeth.
Dirymu7.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch trefniadau ar gyfer penodi Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (“EIMAau”). Maent yn cynnwys darpariaethau ynghylch pwy y caniateir ei benodi i weithredu'n EIMA, a'r personau y caniateir i EIMA ymweld â hwy a'u cyfweld er mwyn darparu cymorth i glaf cymwys Cymreig a gafodd ei dderbyn o dan adran 4 (derbyn ar gyfer asesiad mewn achosion brys) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 3 yn darparu—
bod yn rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) wneud trefniadau bod EIMAau ar gael i gleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth (fel y'u diffinnir yn adran 130(I) o'r Ddeddf), sy'n bresennol yn ardal y BILl pan ddarperir y gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol. Cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth yw'r rheini:
sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth (heblaw o dan adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf) mewn ysbyty neu sefydliad cofrestredig (rheoliad 3(1)(a)),
sy'n destun gwarcheidiaeth neu orchymyn triniaeth gymunedol o dan y Ddeddf (rheoliad 3(1)(b)),
sy'n cael eu hystyried am ffurf ar driniaeth sy'n dod o dan adran 57 o'r Ddeddf (rheoliad 3(1)(c)), neu
nad ydynt wedi cyrraedd 18 mlwydd oed ac sy'n cael eu hystyried am ffurf ar driniaeth o dan adran 58A o'r Ddeddf (rheoliad 3(1)(c));
bod yn rhaid i BILlau wneud trefniadau bod EIMAau ar gael i gleifion anffurfiol cymwys Cymreig (fel y'u diffinnir yn adran 130(J) o'r Ddeddf), sy'n bresennol mewn ysbyty neu sefydliad cofrestredig yn ardal y BILl pan ddarperir y gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol (rheoliad 3(2));
y caiff BILlau wneud trefniadau gyda darparwyr gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer darparu EIMAau (rheoliad 3(3));
pan wneir trefniadau ar gyfer darparu EIMAau rhaid i BILl roi sylw, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, i'r amgylchiadau amrywiol sydd gan gleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymreig (rheoliad 3(4));
bod yn rhaid i unrhyw berson a benodwyd i weithredu'n EIMA naill ai fod wedi ei gymeradwyo gan y BILl neu wedi ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth y mae BILl wedi gwneud trefniadau gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth (rheoliad 3(5));
bod yn rhaid i BILl, cyn cymeradwyo penodi person yn EIMA, gael ei fodloni bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion penodi a ddarperir yn rheoliad 4 a'r gofynion annibyniaeth a ddarperir yn rheoliad 5 (rheoliad 3(6));
bod yn rhaid i BILl sicrhau bod unrhyw ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth y mae'n gwneud trefniadau gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth yn sicrhau bod unrhyw berson y mae'r darparydd yn ei gyflogi'n EIMA yn bodloni'r gofynion penodi a ddarperir yn rheoliad 4 a'r gofynion annibyniaeth a ddarperir yn rheoliad 5 (rheoliad 3(7)); ac
eglurder pan fydd person wedi ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth (rheoliadau 3(8)).
Mae rheoliad 4 yn gosod y gofynion penodi y mae'n rhaid i berson eu bodloni cyn y caniateir iddo gael ei benodi'n EIMA.
Mae rheoliad 5 yn gosod y gofynion annibyniaeth y mae'n rhaid i berson eu bodloni cyn y caniateir iddo gael ei benodi'n EIMA.
Mae rheoliad 6 yn darparu y caniateir i EIMA ymweld â phersonau penodol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol claf cymwys Cymreig dan orfodaeth a gafodd ei dderbyn o dan adran 4 o'r Ddeddf a'u cyf-weld at ddibenion darparu cymorth i glaf o'r fath.
Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer dirymu Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2437 (Cy. 210)).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi o ran y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.