Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011
Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 3A(7)(b) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2012.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu2.
(1)
(2)
(3)
Yn y rheoliad hwn, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, llong, hofrenfad, stondin neu adeiledd symudol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriant awtomatig.
Mae rheoliad 2 yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriant awtomatig. Gwneir y person sydd â rheolaeth ar y fangre y lleolir y peiriant awtomatig ynddi, neu sy'n rheoli'r fangre honno, yn atebol am doriad o'r gwaharddiad hwn.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o'r Rheoliadau hyn fel safon dechnegol yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37) sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol, fel y'i diwygiwyd.
Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, a rhoddwyd ef yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono o'r Gangen Ymddygiadau Risg i Iechyd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.