Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2486 (Cy.270)

GARDDWRIAETH, CYMRU

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

18 Hydref 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Hydref 2011

Yn dod i rym

8 Tachwedd 2011

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn yr adran honno o'r Ddeddf honno ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at ddarpariaethau Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011(3) yn yr offeryn y mae'r Rheoliadau hyn yn ei ddiwygio i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(4).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 8 Tachwedd 2011.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009

2.  Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio cyfeiriadau at “rheolau marchnata'r Gymuned”

3.  Yn lle “rheolau marchnata'r Gymuned”, ym mhob man (gan gynnwys pennawd rheoliad 4) lle y mae'n digwydd rhodder “rheolau marchnata'r UE”.

Diwygio rheoliad 2

4.  Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder—

ystyr “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011” (“Commission Implementing Regulation 543/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 dyddiedig 7 Mehefin 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu(6), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle'r diffiniad o “rheolau marchnata'r UE” (fel y'i diwygiwyd gan reoliad 3), rhodder—

ystyr “rheolau marchnata'r UE” (“EU marketing rules”) yw'r safon farchnata gyffredinol a'r safonau marchnata penodol sy'n cwmpasu ffrwythau a llysiau ffres a restrir yn Rhan IX o Atodiad I i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy'n cynnwys y rheolau sy'n ymwneud â'r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007 ac yn Nheitl II o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011;

(ii)yn lle'r diffiniad o “safonau marchnata cyffredinol”, rhodder—

ystyr “safon farchnata gyffredinol” (“general marketing standard”) yw gofynion Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007 fel y'u rhoddir yn Erthygl 3(1) a Rhan A o Atodiad I i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011;

(iii)yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol”, yn lle “Erthygl 2a(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn 1580/2007” rhodder “Erthygl 3(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;

(c)ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.

Diwygio rheoliad 3

5.  Yn rheoliad 3(1), yn lle “Erthygl 8(1)(b) o Reoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Erthygl 9(1)(b) o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.

Diwygio rheoliad 4

6.  Yn rheoliad 4(3), yn lle “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.

Diwygio rheoliad 8

7.  Yn rheoliad 8(2), yn lle “Atodiad VI i Reoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Atodiad V i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.

Amnewid yr Atodlen

8.  Yn lle'r Atodlen, rhodder yr Atodlen ganlynol.

Rheoliad 4(3)

YR ATODLENDarpariaethau o dan Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Darpariaeth berthnasol Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011Darpariaeth Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 i'w darllen gyda'r ddarpariaeth yng ngholofn 1Y pwnc
Erthygl 5(1)Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 5(2) i (4), Erthygl 6, Erthygl 7Gofyniad cyffredinol ar gyfer manylion gwybodaeth
Erthygl 5(2)Atodiad I, Erthygl 5(1), (3) a (4), Erthygl 7Y gofynion ar gyfer manylion gwybodaeth mewn dogfennau sy'n mynd gyda llwythi swmpus a nwyddau a lwythir yn uniongyrchol ar gyfrwng cludo
Erthygl 5(3)Atodiad I, Erthygl 5(1) a (4), Erthygl 7Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn achos contractau o bell sydd i fod ar gael cyn cwblhau'r pryniant
Erthygl 5(4)Atodiad I, Erthygl 5(1) i (3), Erthygl 7Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth ar anfonebau a dogfennau sy'n mynd gyda hwy
Erthygl 6Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 7Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn y cyfnod manwerthu
Erthygl 7(1)Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 6, Erthygl 7(2) a (3)Y gofynion ar gyfer gwerthu cymysgeddau o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau
Erthygl 10(6)Erthygl 10(1) i (5)Gofyniad i fasnachwyr ddarparu gwybodaeth a ystyrir gan Aelod-wladwriaethau yn angenrheidiol i'r gronfa ddata
Erthygl 11(4)Erthygl 11(1) i (3), Erthygl 12, Erthygl 14 ac Atodiad III, Erthygl 15Gofyniad i fasnachwyr ddarparu i gyrff arolygu bob gwybodaeth sy'n ofynnol ganddynt i drefnu a chyflawni eu gwiriadau cydymffurfio
Erthygl 17(3), yr is-baragraff olafErthygl 10, Erthygl 17(1), (2) a gweddill (3), Atodiad VGofyniad i fasnachwyr ddarparu pob gwybodaeth y bernir ei bod yn angenrheidiol gan y corff arolygu ar gyfer dull yr arolygiad.

Alun Davies

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

18 Hydref 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith, o ran Cymru, i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 dyddiedig 7 Mehefin 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu (OJ Rhif L 157, 15.6.2011, t.1) “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.

Mae Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 yn cydgrynhoi Rheoliad (EC) Rhif 1580/2007 (OJ Rhif L 350, 31.12.2007, t.1) a oedd wedi ei ddiwygio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009, O.S. 2009/1551 (Cy. 151) er mwyn diweddaru'r cyfeiriadau angenrheidiol at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yn effeithio ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.

(1)

Yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.

(3)

OJ Rhif L 157, 15.6.2011, t.1.

(4)

Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(6)

OJ Rhif L 350, 31.12.2007, t.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources