2011 Rhif 2486 (Cy.270)

GARDDWRIAETH, CYMRU

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn yr adran honno o'r Ddeddf honno ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at ddarpariaethau Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/20113 yn yr offeryn y mae'r Rheoliadau hyn yn ei ddiwygio i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi4.