Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd:
- (a)gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (“Deddf 1986”)1 i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1)2 o'r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt3, i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru4;
- (b)
- (c)
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
Y personau, yr ymchwiliadau a'r gweithdrefnau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a)
ymchwiliad lleol; a
(b)
unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad cymwys, neu wedi'i benodi fel un o'r personau a benodwyd felly, ac sydd i gynnal ymchwiliad cymwys; ac
(c)
unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru i gynnal gweithdrefn gymwys.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol4.
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £742.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau cymwys5.
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ymchwiliad cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer gweithdrefnau cymwys6.
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679.
Dirymiadau ac arbedion7.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu hawdurdodi i adennill oddi wrth awdurdodau lleol gostau a dynnwyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad:
ag ymchwiliadau a gynhelir o dan adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol, y cymhwysir darpariaethau perthnasol o'r adran honno iddynt gan adran 5 o Ddeddf Caffael Tir 1981) ac adran 69 o Ddeddf Draenio Tir 1991 (“ymchwiliadau lleol”);
ag ymchwiliadau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (ymchwiliadau a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unedol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“ymchwiliadau cymwys”); ac
â gweithdrefnau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol ac ymchwiliadau mewn perthynas ag ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“gweithdrefnau cymwys”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r symiau dyddiol safonol y caiff Gweinidogion Cymru eu hadennill am bob diwrnod—
y bydd ymchwiliad lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodwyd i gynnal yr ymchwiliad lleol wrthi rywfodd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad lleol; neu
y bydd y person a benodwyd i ymgymryd ag ymchwiliad cymwys neu, yn ôl fel y digwydd, gweithdrefn gymwys, wrthi yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad cymwys neu'r weithdrefn gymwys.
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £742. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £722, a ragnodwyd gan Reoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/728) (Cy.64) (“Rheoliadau 2007”) ar gyfer ymchwiliadau a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ymchwiliadau cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679. Yr un swm yw hwn ag a ragnodwyd yn flaenorol gan Reoliadau 2007 ar gyfer ymchwiliadau cymwys a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas â gweithdrefnau cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £640, a ragnodwyd gan Reoliadau 2007 ar gyfer gweithdrefnau cymwys a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2007, ond yn gwneud arbedion mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol ac ymchwiliadau cymwys a agorodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau'n agored, ac mewn perthynas â gweithdrefnau cymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau.