Offerynnau Statudol Cymru
2011 Rhif 2415 (Cy.261)
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011
Gwnaed
3 Hydref 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Hydref 2011
Yn dod i rym
1 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd:
gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (“Deddf 1986”)(1) i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1)(2) o'r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt(3), i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru(4);
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf 1990(9), ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r diddymiadau a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 2(g) o'r Gorchymyn hwnnw;
ystyr “ymchwiliad cymwys” yw ymchwiliad cymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying inquiry” yn adran 303A(1) o Ddeddf 1990 (i'r graddau y mae'r adran honno'n parhau i fod ag effaith heb y diwygiad a fewnosodir gan adran 118 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”) a pharagraff 11(2) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno), ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r darpariaethau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005(10) yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw;
ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan Weinidogion Cymru hawl i adennill eu costau mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(11) (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991(12) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).
Y personau, yr ymchwiliadau a'r gweithdrefnau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a)ymchwiliad lleol; a
(b)unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad cymwys, neu wedi'i benodi fel un o'r personau a benodwyd felly, ac sydd i gynnal ymchwiliad cymwys; ac
(c)unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru i gynnal gweithdrefn gymwys.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol
4. Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £742.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau cymwys
5. Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ymchwiliad cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer gweithdrefnau cymwys
6. Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679.
Dirymiadau ac arbedion
7. Dirymir Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007(13) ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo, a agorodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau'n agored ar ôl y dyddiad hwnnw ac mewn perthynas â gweithdrefn gymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau ar ôl y dyddiad hwnnw.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2011
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu hawdurdodi i adennill oddi wrth awdurdodau lleol gostau a dynnwyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad:
(a)ag ymchwiliadau a gynhelir o dan adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol, y cymhwysir darpariaethau perthnasol o'r adran honno iddynt gan adran 5 o Ddeddf Caffael Tir 1981) ac adran 69 o Ddeddf Draenio Tir 1991 (“ymchwiliadau lleol”);
(b)ag ymchwiliadau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (ymchwiliadau a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unedol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“ymchwiliadau cymwys”); ac
(c)â gweithdrefnau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol ac ymchwiliadau mewn perthynas ag ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“gweithdrefnau cymwys”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r symiau dyddiol safonol y caiff Gweinidogion Cymru eu hadennill am bob diwrnod—
(a)y bydd ymchwiliad lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodwyd i gynnal yr ymchwiliad lleol wrthi rywfodd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad lleol; neu
(b)y bydd y person a benodwyd i ymgymryd ag ymchwiliad cymwys neu, yn ôl fel y digwydd, gweithdrefn gymwys, wrthi yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad cymwys neu'r weithdrefn gymwys.
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £742. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £722, a ragnodwyd gan Reoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/728) (Cy.64) (“Rheoliadau 2007”) ar gyfer ymchwiliadau a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ymchwiliadau cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679. Yr un swm yw hwn ag a ragnodwyd yn flaenorol gan Reoliadau 2007 ar gyfer ymchwiliadau cymwys a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas â gweithdrefnau cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £640, a ragnodwyd gan Reoliadau 2007 ar gyfer gweithdrefnau cymwys a agorwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2007, ond yn gwneud arbedion mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol ac ymchwiliadau cymwys a agorodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau'n agored, ac mewn perthynas â gweithdrefnau cymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau.
Diddymwyd adran 42(1)(b) gan Ran I o Atodlen 3 i Ddeddf Cydgyfnerthu Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p.60) a diddymwyd adran 42(1)(d) gan Ran 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diddymwyd adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno), y cyfeirir ati yn adran 42(1)(c) o Ddeddf 1986, gan Atodlen 3 i Ddeddf Ymchwiliadau 2005 (p.12).
Mae adran 69(7) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (p.59) (“Deddf 1991”) yn darparu bod adran 42 o Ddeddf 1986 yn gymwys pan fo'r naill neu'r llall o “the Ministers” wedi ei awdurdodi gan adran 69(5) o Ddeddf 1991 i adennill costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad a gynhelir gan y Gweinidog, fel y mae'n gymwys pan awdurdodir Gweinidog yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 a Gorchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794) am diffiniad o “the Ministers” h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd.
Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 42 o Ddeddf 1986 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, i'w harfer mewn perthynas â Chymru yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
1990 p.8. Mewnosodwyd adran 303A yn Neddf 1990 gan adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 (p.49), a diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2008 (p.12).
Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 303A(5) o Ddeddf 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i hamrywiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 303A(5) mewn perthynas ag ardaloedd awdurdodau cynllunio penodol yng Nghymru gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) a pharagraff 11 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd adran 303(1A) yn Neddf 1990 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraff 11 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
O.S. 2005/2847 (C.118). Drwy erthygl 2(e) o'r Gorchymyn, daeth y diwygiad i adran 303A o Ddeddf 1990, a wnaed gan Ddeddf 2004, i rym o ran Cymru ar 12 Hydref 2005. Fodd bynnag, drwy erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw, mae darpariaethau adran 303A fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 yn parhau i fod mewn grym mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol hynny y mae'r darpariaethau yn Neddf 1990 sy'n ymwneud â pharatoi, newid ac amnewid cynlluniau datblygu unedol yn parhau i fod yn gymwys iddynt. Effaith gyffredinol y darpariaethau niferus y cyfeirir atynt uchod yw, pan fo awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu lleol, cynhelir archwiliad annibynnol a bydd gan Weinidogion Cymru bŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas â'r archwiliad annibynnol. Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn parhau'n ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu unedol, fodd bynnag, cynhelir ymchwiliad lleol pan fo'n briodol, a bydd Gweinidogion Cymru yn parhau â phŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas â'r ymchwiliad lleol.
1972 p.70. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i hamrywiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
