2011 Rhif 2379 (Cy.252)
ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau at offerynnau yr Undeb Ewropeaidd yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o dro i dro.

Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 19733, mae'r Trysorlys yn cydsynio â gwneud y Rheoliadau hyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011. Maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Hydref 2011.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail” (“animal”) yw anifail o unrhyw fath, gan gynnwys aderyn, pysgodyn neu infertebrat;

mae i “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 31;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw cynnyrch a restrir yn Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC4 (yn ymwneud â rhestri o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC5 a 97/78/EC6) ac, yn ychwanegol, gwair a gwellt;

ystyr “deunydd genetig” (“genetic material”) yw wyau deor a semen, ofa neu embryonau anifeiliaid;

(2)

Mae pob cyfeiriad yn Atodlen 1 at offerynnau yr Undeb Ewropeaidd yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o dro i dro.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Eithriadau ar gyfer anifeiliaid anwes3.

(1)

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag anifeiliaid anwes y mae person naturiol yn mynd gyda hwy ac yn gyfrifol drostynt, lle y mae'r canlynol wedi eu bodloni—

(a)

nad yw'r symud yn ddarostyngedig i drafodyn masnachol; a

(b)

(yn achos cathod, cŵn a ffuredau) nad oes mwy na chyfanswm o bum anifail yn teithio gyda'r person.

(2)

Yn y rheoliad hwn ystyr “anifail anwes” (“pet”) yw unrhyw anifail o rywogaeth a restrir yn Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 998/2003 (ar ofynion iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i symud anfasnachol anifeiliaid anwes7).
Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Cytundebau rhyngwladol4.

Ymdrinnir â masnach â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir o dan unrhyw gytundeb rhwng y gwledydd hynny â'r Undeb Ewropeaidd, fel masnach rhwng Aelod-wladwriaethau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

RHAN 2Symud rhwng Aelod-wladwriaethau

Symud anifeiliaid a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau5.

(1)

Ni chaniateir i unrhyw anifail na deunydd genetig gael ei draddodi i Aelod-wladwriaeth arall na dod ag ef i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, oni bai bod y dystysgrif iechyd sy'n ofynnol ar gyfer yr anifail neu'r deunydd genetig hwnnw yn yr offeryn perthnasol yn Atodlen 1, wedi ei chwblhau a'i llofnodi, yn dod gydag ef.

(2)

Rhaid i draddodai llwyth sy'n dod i mewn gadw'r dystysgrif am o leiaf dair blynedd.

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Paratoi tystysgrif iechyd6.

(1)

Er mwyn paratoi tystysgrif iechyd ar gyfer traddodi'r anifail neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r person sy'n bwriadu anfon y llwyth wneud cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif ac iddi rif unigryw.

(2)

Yna, rhaid i'r dystysgrif gael ei chwblhau, gan berson sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, yn unol â'r cyfarwyddiadau a anfonwyd gan Weinidogion Cymru gyda'r dystysgrif.

(3)

Rhaid i'r person sy'n cwblhau'r dystysgrif sicrhau bod yr amodau a bennir yn y dystysgrif wedi eu cyflawni a bod yr holl archwiliadau angenrheidiol wedi eu gwneud.

(4)

Os yw popeth mewn trefn, rhaid i'r person lofnodi'r dystysgrif.

(5)

Ni chaiff neb lofnodi'r dystysgrif na chafodd ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(6)

Ni chaiff neb lofnodi'r dystysgrif gan wybod ei bod yn ffug, neu gan beidio â chredu ei bod yn wir.

Annotations:
Commencement Information

I6Rhl. 6 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Hysbysiad o symud anifeiliaid a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau7.

(1)

Ni chaniateir i unrhyw anifail na deunydd genetig gael ei draddodi i Aelod-wladwriaeth arall oni bai bod y traddodwr wedi hysbysu'r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth sydd ym mhen y daith, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, am yr amser y bwriedir i'r llwyth gyrraedd gan ddefnyddio'r system Traces a sefydlwyd o dan Benderfyniad y Comisiwn 2004/292/EC (pan fydd y system Traces wedi ei chyflwyno)8).

(2)

Ni chaniateir dod ag unrhyw anifail na deunydd genetig (ac eithrio ceffylau cofrestredig sy'n dod gyda dogfen adnabod y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC) i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall oni bai bod y person sy'n dod â'r llwyth i mewn wedi hysbysu Gweinidogion Cymru, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, am yr amser y bwriedir i'r llwyth gyrraedd9.
Annotations:
Commencement Information

I7Rhl. 7 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Gofynion ychwanegol mewn achosion penodol8.

Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn gwneud gofynion ychwanegol ar gyfer achosion penodol.

Annotations:
Commencement Information

I8Rhl. 8 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

RHAN 3Mewnforio o drydedd wlad

Cwmpas y Rhan hon9.

Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â mewnforio unrhyw anifail neu gynnyrch a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC i mewn i Gymru o wlad sydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys sefyllfa pan fydd y gyrchfan olaf y tu allan i Gymru.

Annotations:
Commencement Information

I9Rhl. 9 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Ystyr “DMMG”10.

Ystyr “DMMG” (“CVED”) yw Dogfen Mynediad Milfeddygol Gyffredin a bennir yn—

(a)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn arolygfeydd ar ffiniau'r Gymuned a hynny ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd10; a

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 sy'n cyflwyno dogfen ar gyfer datgan yr anifeiliaid sy'n dod o drydydd gwledydd sy'n dod i mewn i'r Gymuned ac ar gyfer gwneud gwiriadau milfeddygol arnynt11.
Annotations:
Commencement Information

I10Rhl. 10 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Arolygfa ffin11.

(1)

Arolygfa ffin yw porthladd neu faes awyr, a gymeradwywyd fel y cyfryw gan y Comisiwn Ewropeaidd12.

(2)

Os bydd Gweinidogion Cymru neu'r awdurdod lleol lle y lleolir yr arolygfa ffin o'r farn, ar unrhyw adeg, nad yw unrhyw ran o'r cyfleusterau arolygu yn yr arolygfa ffin bellach yn cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer cymeradwyo, caiff Gweinidogion Cymru neu'r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr sydd yn—

(a)

pennu'r modd y torrwyd y gofynion;

(b)

darparu terfyn amser o fewn pryd y mae'n rhaid cydymffurfio â'r amodau; ac

(c)

gwahardd defnyddio'r rhan honno o'r cyfleusterau hyd nes y cydymffurfir â'r amodau cymeradwyo.

(3)

Os na chydymffurfir â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro y gymeradwyaeth mewn perthynas â'r rhan honno o'r cyfleusterau arolygu.

(4)

Os yw gweithredwr arolygfa ffin yn torri'r gofynion yn ddifrifol ar gyfer arolygfa ffin a geir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu13), neu bod amodau cymeradwyo, ac yn benodol, os yw'r ffordd mae arolygfa ffin yn gweithredu yn creu risg i iechyd pobl neu anifeiliaid, rhaid i Weinidogion Cymru atal eu cymeradwyaeth dros dro a hysbysu'r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill o'r ataliad dros dro a'r rheswm drosto.
Annotations:
Commencement Information

I11Rhl. 11 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Penodi milfeddygon swyddogol ac arolygwyr pysgod swyddogol12.

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru benodi milfeddygon sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn filfeddygon swyddogol ar gyfer unrhyw arolygfa ffin sydd wedi ei hawdurdodi i fewnforio anifeiliaid.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol ar gyfer ardal ag arolygfa ffin, sydd wedi ei hawdurdodi i fewnforio cynhyrchion, benodi milfeddygon sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn filfeddygon swyddogol ar gyfer yr arolygfa honno.

(3)

Caiff penodiad o dan baragraff (2) gael ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na'r awdurdod lleol, os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer arolygfa ffin yn caniatáu mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unig.

(4)

Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer arolygfa ffin yn caniatáu mewnforio unrhyw gynnyrch (ac eithrio malwod) ar gyfer eu bwyta gan bobl, a restrir ym Mhennod 3 o Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC caiff y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol benodi swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn arolygwyr pysgod swyddogol ar gyfer yr arolygfa honno mewn perthynas â chynhyrchion pysgod a physgodfeydd, a bydd gan yr arolygydd hwnnw'r holl bwerau sydd gan filfeddyg swyddogol mewn perthynas â'r cynhyrchion hynny.

Annotations:
Commencement Information

I12Rhl. 12 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Man mewnforio13.

Ni chaniateir dod ag anifail na chynnyrch i mewn i Gymru ac eithrio drwy arolygfa ffin sydd wedi ei ddynodi ar gyfer yr anifail neu'r cynnyrch hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I13Rhl. 13 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Hysbysiad am fewnforio14.

(1)

Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth o anifeiliaid hysbysu'r arolygfa ffin pryd y bydd y llwyth yn cyrraedd, a hynny o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd.

(2)

Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth o gynhyrchion hysbysu'r arolygfa ffin ei fod wedi cyrraedd, cyn i'r llwyth gael ei ddadlwytho o'r cyfrwng cludo a ddaeth ag ef i Gymru.

(3)

Rhaid gwneud yr hysbysiad drwy gyflwyno'r DMMG gyda Rhan 1 wedi ei chwblhau.

(4)

Yn achos trawslwytho cynhyrchion i Aelod-wladwriaeth arall rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth hysbysu'r milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin lle mae'n cyrraedd, ar yr adeg pan fo'n cyrraedd, o'r canlynol—

(a)

amcangyfrif o'r amser a gymerir i ddadlwytho'r llwyth;

(b)

yr arolygfa ffin lle y mae'n mynd i gael ei wirio;

(c)

lleoliad y llwyth; ac

(ch)

bras amcan o'r amser gadael.

Annotations:
Commencement Information

I14Rhl. 14 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Gweithdrefn wrth fewnforio15.

(1)

Pan fo llwyth wedi ei ddadlwytho, rhaid i'r person sy'n gyfrifol amdano, heb oedi rhesymol, drefnu iddo, yn ogystal â'r ddogfennaeth a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yn y ddeddfwriaeth berthnasol yn Atodlen 1, gael ei gyflwyno yng nghyfleusterau arolygu'r arolygfa ffin i alluogi gwneud y canlynol—

(a)

y gwiriadau sy'n ofynnol gan Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu,

(b)

y gwiriadau sy'n ofynnol gan Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 97/496/EEC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu14, neu

(c)

y rheolaethau swyddogol y cyfeirir atynt yn Erthygl 14(1) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y gwirir cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei gadarnhau15.

(2)

Caiff milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad, i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, sy'n pennu amser rhesymol y bydd yn rhaid i'r llwyth gael ei gyflwyno i'w arolygu, a rhaid i'r person hwnnw gydymffurfio â'r fath hysbysiad.

(3)

Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wneud y gwiriadau a'r rheolaethau angenrheidiol a bennir ym mharagraff (1) a rhaid dyroddi DMMG yn caniatáu mynediad dim ond os yw'r canlynol wedi eu bodloni—

(a)

bod y llwyth yn cydymffurfio â'r gofynion sy'n ymwneud ag ef yn yr offeryn perthnasol yn Atodlen 1;

(b)

nad yw'r mewnforio wedi ei wahardd o dan baragraff (4); ac

(c)

bod y ffi gywir ar gyfer y gwiriadau wedi cael ei thalu neu'n mynd i gael ei thalu.

(4)

Yn benodol, yn achos anifeiliaid byw rhaid i filfeddyg swyddogol beidio â dyroddi DMMG yn caniatáu mynediad—

(a)

os yw'r anifeiliaid yn dod o diriogaeth neu ran o diriogaeth trydedd wlad nad yw wedi ei chynnwys yn y rhestri a luniwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y rhywogaeth dan sylw neu os gwaherddir mewnforion ohonynt o dan y ddeddfwriaeth honno;

(b)

os yw'r anifeiliaid yn dioddef o glefyd heintus neu glefyd sy'n cyflwyno risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid neu os oes amheuaeth eu bod yn dioddef felly neu wedi eu heintio felly, neu unrhyw reswm arall a ddarperir ar ei gyfer yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

(c)

os nad yw'r drydedd wlad sy'n allforio wedi cydymffurfio â'r gofynion a ddarperir ar eu cyfer yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

(ch)

os nad yw'r anifeiliaid mewn cyflwr priodol i barhau ar eu taith;

(d)

os nad yw'r dystysgrif filfeddygol neu'r ddogfen sy'n dod gyda'r anifeiliaid yn bodloni gofynion deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â mewnforion.

(5)

Os nad oes gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â'r llwyth, rhaid i'r milfeddyg swyddogol beidio â dyroddi DMMG oni bai bod y mewnforio wedi cael ei awdurdodi yn ysgrifenedig, gan Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn. Caiff Gweinidogion Cymru roi'r awdurdodiad dim ond pan fyddant wedi eu bodloni nad yw'r llwyth yn peri risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid nac i statws iechyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig.

(6)

Rhaid i'r milfeddyg swyddogol gadw'r dystysgrif wreiddiol sy'n dod gyda'r llwyth am dair blynedd (ac eithrio, os gwrthodwyd y llwyth rhaid i'r milfeddyg swyddogol ei stampio'n unol â hynny, dychwelyd y gwreiddiol i'r mewnforiwr a chadw copi ohoni am dair blynedd).

Annotations:
Commencement Information

I15Rhl. 15 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Symud llwyth o arolygfa ffin16.

(1)

Ni chaiff neb symud llwyth o arolygfa ffin oni bai bod DMMG, a ddyroddwyd gan y milfeddyg swyddogol, yn dod gydag ef, a bod y symud yn unol â'r DMMG.

(2)

Rhaid i'r person sy'n ei gludo o'r arolygfa ffin sicrhau ei fod yn cael ei gludo i'r gyrchfan a bennir yn y DMMG a bod y DMMG gydag ef.

(3)

Nid yw hyn yn gymwys os yw'r llwyth wedi ei symud o arolygfa ffin o dan awdurdod y milfeddyg swyddogol.

Annotations:
Commencement Information

I16Rhl. 16 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Sianelu17.

Yn achos cynnyrch, os yw blwch 30, 31, 33 neu 34 o'r DMMG yn ei gwneud yn ofynnol i lwyth gael ei gludo i gyrchfan benodol yn yr Undeb Ewropeaidd—

(a)

rhaid i'r symud fod o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau os pennir hynny yn y DMMG; a

(b)

rhaid i feddiannydd y fangre, wrth i'r llwyth gyrraedd, hysbysu Gweinidogion Cymru, ar unwaith, ei fod wedi cyrraedd.

Annotations:
Commencement Information

I17Rhl. 17 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Cyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig18.

(1)

Mae'r rheoliad hwn yn ymwneud â llwyth y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru ond y bwriedir iddo fynd i gyrchfan olaf y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(2)

Yn achos anifail a draddodir i gyrchfan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r person sy'n hysbysu ei fod wedi cyrraedd, gyflwyno tystiolaeth ddogfennol y bydd y gyrchwlad yn derbyn yr anifail, a chaiff y milfeddyg swyddogol mewn arolygfa ffin, os na ddarperir y ddogfennaeth, wrthod derbyn yr anifail.

(3)

Yn achos cynhyrchion, caniateir i lwyth, y bwriedir iddo fynd i gyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac y daethpwyd ag ef i arolygfa ffin, gael ei gludo yn uniongyrchol o'r arolygfa ffin (yn achos maes awyr, rhaid iddo fod drwy'r awyr, ac yn achos porthladd, rhaid iddo fod ar y môr) i gyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig heb DMMG, os nad yw'n aros yn yr arolygfa ffin am fwy na 12 awr (yn achos maes awyr) neu saith niwrnod (yn achos porthladd).

(4)

Ond os bwriedir anfon y llwyth i gyrchfan yn yr Undeb Ewropeaidd, ac na chaniateir mewnforio'r cynnyrch i'r Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrthod y llwyth.

Annotations:
Commencement Information

I18Rhl. 18 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Llwythi nas gwiriwyd19.

Rhaid i'r awdurdod gorfodi ymafael yn unrhyw lwyth—

(a)

y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru mewn modd gwahanol i ddod ag ef drwy arolygfa ffin a gymeradwywyd ar gyfer yr anifail neu'r cynnyrch hwnnw;

(b)

sy'n cael ei symud o arolygfa ffin heb DMMG neu heb awdurdod y milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin; neu

(c)

sy'n cael ei gludo o arolygfa ffin i gyrchfan wahanol i'r un a bennir yn y DMMG.

Annotations:
Commencement Information

I19Rhl. 19 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Camau yn dilyn methu â gwirio neu ymafaeliad — cynhyrchion20.

(1)

Yn achos cynnyrch, os dengys y gwiriadau mewn arolygfa ffin nad yw'r llwyth yn bodloni'r amodau yn yr offeryn yn Atodlen 1, mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu afreoleidd-dra, rhaid i'r milfeddyg swyddogol, ar ôl ymgynghori â'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, wneud y canlynol—

(a)

caniatáu i'r llwyth gael ei ddefnyddio fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cael eu bwyta gan bobl16 ar yr amod nad oes unrhyw risg i iechyd pobl nac anifeiliaid;

(b)

pan fo amodau iechyd yn caniatáu hynny, ei gwneud yn ofynnol bod y person sy'n gyfrifol am y llwyth, yn ailanfon y cynnyrch y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, o'r un arolygfa ffin, i gyrchfan y cytunwyd arni â'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, gan ddefnyddio'r un cyfrwng cludo o fewn terfyn amser o 60 o ddiwrnodau ar y mwyaf; neu

(c)

os yw'r person sy'n gyfrifol am y llwyth yn cytuno'n syth, bod ailanfon yn amhosibl neu bod y terfyn amser o 60 diwrnod wedi mynd heibio, dinistrio'r cynhyrchion.

(2)

Pan fo'r person sy'n gyfrifol am y llwyth yn aros am ailanfon neu'n aros am gadarnhad o'r rhesymau dros wrthod y llwyth, rhaid iddo storio'r llwyth o dan oruchwyliaeth yr awdurdod gorfodi ar draul y person sy'n gyfrifol am y llwyth.

(3)

Os ymafaelir mewn llwyth o gynhyrchion y tu allan i arolygfa ffin o dan reoliad 19, rhaid i'r awdurdod gorfodi wneud y canlynol—

(a)

cael gwared o'r llwyth fel deunydd Categori 1, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor; neu

(b)

gweithredu yn unol ag is-baragraff (b) neu (c) o baragraff (1) o'r rheoliad hwn.

Annotations:
Commencement Information

I20Rhl. 20 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Llwythi o gynhyrchion sy'n debygol o beri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd dynol21.

Os yw gwiriadau milfeddygol mewn arolygfa ffin yn dangos bod llwyth o gynhyrchion yn debygol o beri perygl i iechyd anifeiliaid neu i iechyd dynol, rhaid i'r milfeddyg swyddogol ymafael ynddo a'i ddinistrio ar unwaith, ar draul y person sy'n gyfrifol amdano.

Annotations:
Commencement Information

I21Rhl. 21 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Torri'r gyfraith yn ddifrifol neu'n fynych a thorri'r terfynau gweddillion uchaf22.

(1)

Os yw gwiriadau milfeddygol mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth yn datgelu bod y cynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Undeb Ewropeaidd o drydedd wlad benodol, rhan o drydedd wlad neu sefydliad mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad mewnforio, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu bod y lefelau gweddillion uchaf yn uwch na'r hyn a ganiateir, mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r deng llwyth nesaf a gaiff eu dwyn i mewn i Gymru o'r drydedd wlad honno, rhan ohoni neu sefydliad ynddi.

(2)

Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wneud gwiriad ffisegol ar y cynnyrch, a chymryd samplau a'u dadansoddi.

(3)

Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi ernes i'r milfeddyg swyddogol, neu warant sy'n ddigonol i sicrhau taliad yr holl ffioedd, gan gynnwys cymryd samplau, a phrofion neu ddadansoddiad.

Annotations:
Commencement Information

I22Rhl. 22 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Camau yn dilyn methu â gwirio neu ymafaeliad — anifeiliaid23.

(1)

Os yw'r gwiriadau mewn arolygfa ffin yn dangos nad yw anifail yn bodloni'r amodau yn y ddeddfwriaeth yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r anifail hwnnw, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu afreoleidd-dra, rhaid i'r milfeddyg swyddogol, ar ôl ymgynghori â'r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr, wneud y canlynol—

(a)

darparu cysgod, porthiant a dŵr i'r anifail ac, os bydd angen, rhoi triniaeth iddo;

(b)

os bydd angen hynny, ei roi mewn cwarantîn neu ei ynysu am ba hyd bynnag y bo'n angenrheidiol i sicrhau nad oes risg i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid; neu

(c)

pan fo gofynion iechyd neu les anifeiliaid yn caniatáu hynny, ei ailanfon, o fewn y terfyn amser a osodir gan y milfeddyg swyddogol, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

(2)

Os yw ailanfon yn amhosibl, yn benodol oherwydd rhesymau lles, caiff y milfeddyg swyddogol drefnu i'r anifail gael ei gigydda.

(3)

Os yr ymafaelir mewn anifail o dan reoliad 19 rhaid i'r awdurdod gorfodi ei ynysu ac, wedi archwilio'r anifail, naill ai—

(a)

rhyddhau'r anifail o gyfyngiad; neu

(b)

ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gigydda neu ei ailallforio y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

(4)

Mae'r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr yn atebol am y costau yr eir iddynt yn y mesurau hyn, ond y mae ganddo'r hawl i werth anifail a gigyddwyd ar ôl i'r costau hyn gael eu tynnu ohono.

Annotations:
Commencement Information

I23Rhl. 23 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Apelau24.

Caiff unrhyw berson, y mae penderfyniad y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 20 neu 23 yn ei dramgwyddo, apelio o fewn mis o'r penderfyniad i Lys Ynadon ar ffurf cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 198017 yn gymwys i'r achos.
Annotations:
Commencement Information

I24Rhl. 24 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Gofynion ychwanegol mewn achosion penodol25.

Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gwneud gofynion ychwanegol ar gyfer achosion penodol.

Annotations:
Commencement Information

I25Rhl. 25 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Eithrio26.

Nid yw darpariaethau'r Rhan hon yn gymwys i achosion a bennir yn Atodlen 3.

Annotations:
Commencement Information

I26Rhl. 26 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Ailfewnforio cynhyrchion27.

(1)

Rhaid i filfeddyg swyddogol wrth yr arolygfa ffin, awdurdodi ailfewnforio llwyth o gynhyrchion a darddodd o'r Undeb Ewropeaidd ac a wrthodwyd gan drydedd wlad, os daeth y canlynol gyda'r llwyth—

(a)

y dystysgrif wreiddiol neu gopi a ddilyswyd gan yr awdurdod cymwys a oedd wedi dyroddi'r dystysgrif a ddaeth gyda'r llwyth, yn ogystal â manylion y rhesymau pam y'i gwrthodwyd a gwarant y cadwyd at yr amodau sy'n llywodraethu storio a chludo'r llwyth, gan nodi nad yw'r cynhyrchion sydd yn y llwyth wedi cael eu trafod mewn unrhyw fodd; neu

(b)

yn achos cynwysyddion wedi eu selio, drwy dystysgrif gan y cludwr sy'n nodi nad yw'r cynnwys wedi ei drafod na'i ddadlwytho.

(2)

Rhaid i filfeddyg swyddogol wneud gwiriad dogfennol, gwiriad adnabod, ac, os oes angen hynny, gwiriad ffisegol.

(3)

Rhaid i'r mewnforiwr naill ai—

(a)

cludo'r llwyth yn uniongyrchol i'r sefydliad tarddiad yn yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y dystysgrif, mewn cyfrwng cludo nad yw'n gollwng, a ddynodwyd ac a seliwyd gan y milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin fel bydd y seliau yn cael eu torri pa bryd bynnag yr agorir y cynhwysydd, neu

(b)

dinistrio'r llwyth fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Annotations:
Commencement Information

I27Rhl. 27 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Derbyn cynhyrchion i warysau28.

Ni chaiff neb ddod a llwyth o gynhyrchion nad yw'n cydymffurfio â gofynion mewnforio'r Rheoliadau hyn i warws mewn parth rhydd, warws rydd (fel y diffinnir “free zone” a “free warehouse” yn Nheitl IV, Pennod 3, Adran 1 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu Cod Tollau'r Gymuned18) na warws y tollau.
Annotations:
Commencement Information

I28Rhl. 28 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

RHAN 4Mesurau diogelu

Mesurau diogelu29.

(1)

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd gan Weinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd sail resymol dros amau bod clefyd, milhaint, ffenomenon neu amgylchiad yn bresennol y tu allan i'r Deyrnas Unedig a allai fod yn fygythiad difrifol i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd, drwy ddatganiad ysgrifenedig, atal neu osod amodau ar unrhyw anifail, cynnyrch neu ddeunydd genetig yn dod i mewn i Gymru, o'r wlad gyfan dan sylw neu o unrhyw ran ohoni.

(3)

Rhaid i'r datganiad gael ei gyhoeddi yn y fath fodd ag â wêl Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dda i'w gwneud.

(4)

Ni chaiff neb ddod ag unrhyw beth i mewn i Gymru yn groes i'r fath ddatganiad.

Annotations:
Commencement Information

I29Rhl. 29 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

RHAN 5Gweinyddu

Hysbysiadau ac awdurdodiadau30.

Rhaid i unrhyw hysbysiad neu awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach unrhyw bryd.

Annotations:
Commencement Information

I30Rhl. 30 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Awdurdodau gorfodi31.

Yn y Rheoliadau hyn yr awdurdodau gorfodi yw'r awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladd.

Annotations:
Commencement Information

I31Rhl. 31 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Gorfodi32.

(1)

Mewn arolygfa ffin, mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan y canlynol—

(a)

mewn perthynas ag anifeiliaid, gan Weinidogion Cymru; a

(b)

mewn perthynas â chynhyrchion, gan yr awdurdod lleol.

(2)

Y tu allan i arolygfa ffin, mewn perthynas ag anifeiliaid, gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol.

(3)

Y tu allan i arolygfa ffin, mewn perthynas â chynhyrchion, gorfodir hwy gan y canlynol—

(a)

yr awdurdod lleol; neu

(b)

yr Asiantaeth Safonau Bwyd mewn unrhyw safle torri, sefydliad sy'n trafod anifeiliaid hela neu ladd-dy, neu fangreoedd lle y mae'r Asiantaeth yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 200619.

(4)

Yn ychwanegol, mewn perthynas â chynhyrchion, gorfodir hwy gan swyddog tollau cyffredinol mewn unrhyw fan (ac eithrio cyfleusterau arolygu mewn arolygfa ffin) lle y mae'r nwyddau'n ddarostyngedig i oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau gan y swyddog hwnnw o dan Erthyglau 37 a 38 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu Cod Tollau'r Gymuned.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu achos penodol, y caniateir i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn.

(6)

Rhaid i swyddog awdurdod gorfodi sy'n darganfod cynnyrch, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, mewn unrhyw fan sydd o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau, a allai fod wedi ei gludo i mewn yn groes i'r Rheoliadau hyn, hysbysu swyddog tollau cyffredinol a chadw'r llwyth neu'r cynnyrch hyd nes y bydd y cyfryw swyddog â gofal drosto.

Annotations:
Commencement Information

I32Rhl. 32 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Pwerau mynediad33.

(1)

Caiff swyddog sy'n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi, wedi iddo ddangos awdurdodiad sydd wedi ei ddilysu'n briodol, os yw hynny'n ofynnol, fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn; ac yn y Rheoliadau hyn, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, cerbyd, ôl-gerbyd, cynhwysydd, stondin, strwythur symudol, llong neu awyren.

(2)

Caiff y swyddog fynd â'r personau eraill hynny y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd.

(3)

Ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod y mynediad hwnnw yn unol â gwarant a roddwyd o dan y rheoliad hwn.

(4)

Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1) a naill ai—

(a)

bod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i'r meddiannydd; neu

(b)

y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu bod yr achos yn achos brys, neu bod y fangre heb ei meddiannu neu bod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(5)

Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am fis.

(6)

Rhaid i swyddog sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre heb ei meddiannu, ei gadael yn fangre sydd wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

Annotations:
Commencement Information

I33Rhl. 33 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Pwerau swyddogion awdurdodedig34.

Caiff swyddog sy'n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi, wneud y canlynol—

(a)

arolygu ac archwilio unrhyw anifail;

(b)

arolygu unrhyw gynnyrch, neu ddeunydd genetig, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer neu mewn cysylltiad ag ef;

(c)

mynd at unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) a'u harolygu a'u copïo, a'u symud oddi yno er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo;

(ch)

mynd at, ac arolygu a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion; a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion cyfrifiadurol yn cael eu darparu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(d)

ymafael yn unrhyw beth sy'n ofynnol fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn a'i gadw;

(dd)

agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor ac arolygu'r cynnwys;

(e)

cymryd samplau o unrhyw anifail neu gynnyrch ar gyfer profion labordy, ar gyfer gwirio yn erbyn unrhyw ddogfen berthnasol mewn perthynas â'r anifail neu'r cynnyrch, neu fel arall, ar gyfer gwirio os cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn neu ag unrhyw amod i fewnforio a orfodir gan y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information

I34Rhl. 34 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Llwythi o Aelod-wladwriaeth arall sy'n peri risg i iechyd35.

(1)

Os deuir ag anifail neu ddeunydd genetig sy'n peri risg ddifrifol i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid i mewn o Aelod-wladwriaeth arall, neu o ranbarth sydd wedi ei halogi gan glefyd episöotig, caiff swyddog i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i'r person yr ymddengys ei fod â gofal dros yr anifail neu'r deunydd genetig, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

(a)

cadw ac ynysu—

(i)

yr anifeiliaid;

(ii)

unrhyw anifeiliaid sydd wedi bod mewn cysylltiad â hwy; a

(iii)

y deunydd genetig;

ac i gymryd unrhyw gamau pellach a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad at y diben o atal cyflwyno neu ledaenu clefyd; neu

(b)

heb oedi, cigydda'r anifail, neu, yn achos deunydd genetig, ei ddinistrio, yn unol â'r amodau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad.

(2)

Caiff swyddog i Weinidogion Cymru, sy'n gwybod nad yw anifeiliaid neu ddeunydd genetig yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC neu'n amau hynny, os yw ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu hynny, roi i'r person sydd â gofal dros y llwyth neu i'r person yr ymddengys ei fod â gofal dros yr anifeiliaid hynny neu'r deunydd genetig hwnnw, drwy hysbysiad, ddewis o'r canlynol—

(a)

pan fo'r methiant i gydymffurfio wedi ei achosi gan y presenoldeb mewn anifeiliaid o weddillion y mae eu lefelau'n uwch na'r hyn a ganiateir o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 199720, cadw'r anifeiliaid o dan oruchwyliaeth hyd nes y bydd y lefelau gweddillion wedi disgyn i'r lefelau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth;

(b)

cigydda'r anifeiliaid neu ddinistrio'r deunydd genetig yn unol â'r amodau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad; neu

(c)

dychwelyd yr anifeiliaid neu'r deunydd genetig i'r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni, gydag awdurdodiad awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni gan hysbysu unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant yn mynd drwyddi, ymlaen llaw.

(3)

Os yw'r llwyth yn methu â chydymffurfio oherwydd afreoleidd-dra ynglŷn â'r ddogfennaeth draddodi ofynnol yn unig, ni chaniateir i'r swyddog gyflwyno hysbysiad o'r fath oni bai bod—

(a)

y swyddog wedi rhoi hysbysiad, i'r person sydd â gofal dros y llwyth, yn ei gwneud yn ofynnol i ddangos y ddogfennaeth ofynnol o fewn saith niwrnod ac i gadw'r llwyth yn unol â thelerau'r hysbysiad; a

(b)

y ddogfennaeth ofynnol heb gael ei dangos o fewn yr amser hwnnw.

(4)

Os na chydymffurfir â'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd ymafael yn unrhyw anifail neu ddeunydd genetig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod cydymffurfiaeth â gofynion yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

Annotations:
Commencement Information

I35Rhl. 35 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Rhwystro36.

Ni chaiff neb—

(a)

rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)

heb achos rhesymol, fethu â rhoi, i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu

(c)

rhoi, i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.

Annotations:
Commencement Information

I36Rhl. 36 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Cyfnewid gwybodaeth37.

(1)

Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, swyddog tollau cyffredinol ac unrhyw awdurdod gorfodi gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn gan ddatguddio gwybodaeth i'r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Rhan hon neu'r ddeddfwriaeth gyfatebol yn yr awdurdodaethau hynny.

(2)

Nid yw paragraff (1) yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr, y swyddog tollau cyffredinol neu unrhyw awdurdod gorfodi, i ddatgelu gwybodaeth.

(3)

Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas y Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a dderbynnir gan y Comisiynwyr neu swyddog tollau cyffredinol o dan baragraff (1)—

(a)

os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae modd ei adnabod—

(i)

gan ei fod yn cael ei bennu yn y datgeliad; neu

(ii)

oherwydd y gellid casglu pwy yw'r person o'r datgeliad;

(b)

os yw'r datgeliad ar gyfer diben arall yn hytrach na'r dibenion a bennir ym mharagraff (1); ac

(c)

os nad yw'r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i'r datgeliad ymlaen llaw.

Annotations:
Commencement Information

I37Rhl. 37 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Ffioedd38.

Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi resymol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau mewn anifeiliaid neu ddeunydd genetig o dan y Rheoliadau hyn, ac mae cynrychiolydd y traddodwr a'r person sydd â gofal dros yr anifail neu'r deunydd genetig yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y ffi honno21.
Annotations:
Commencement Information

I38Rhl. 38 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Tramgwyddau39.

Mae torri'r darpariaethau canlynol yn dramgwydd—

Y Ddarpariaeth

Disgrifiad o'r tramgwydd

rheoliad 5(1)

Traddodi anifail neu ddeunydd genetig heb dystysgrif iechyd

rheoliad 5(2)

Methu â chadw tystysgrif am o leiaf dair blynedd

rheoliad 6(5)

Llofnodi tystysgrif heb gael awdurdodiad gan Weinidogion Cymru

rheoliad 6(6)

Llofnodi tystysgrif gan wybod ei bod yn ffug, neu gan beidio â chredu ei bod yn wir

rheoliad 7

Hysbysiad

rheoliad 13

Mewnforio mewn man ac eithrio arolygfa ffin

rheoliad 14

Hysbysiad

rheoliad 15(1)

Methu â chyflwyno llwyth i'w arolygu

rheoliad 15(2)

Methu â chydymffurfio â hysbysiad

rheoliad 16(1)

Symud ymaith o arolygfa ffin heb DMMG

rheoliad 16(2)

Methu â chludo llwyth i fan a bennir yn y DMMG

rheoliad 17

Symud ac eithrio o dan oruchwyliaeth Gwasanaeth y Tollau a methu â hysbysu Gweinidogion Cymru

rheoliad 28

Dod â chynnyrch nad yw yn cydymffurfio i warws etc.

rheoliad 29(2)

Dod ag anifail neu gynnyrch yn groes i ddatganiad

rheoliad 36

Rhwystro

rheoliad 37(3)

Datgelu gwybodaeth

Atodlen 2:

paragraff 5(1)

Masnachu epaod

paragraff 6(2)

Cadw cofnodion

paragraff 6(3)

Hysbysiad o symud

paragraff 7

Symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid

paragraff 8(2)

Cigydda anifeiliaid

paragraff 8(3)

Cadw anifeiliaid yn eu cyrchfan

paragraff 9(2)

Cludo adar i gyfleusterau neu ganolfannau cwarantîn sydd wedi eu cymeradwyo

paragraff 9(3)

Rhyddhau adar o gwarantîn

paragraff 11

Defnyddio tystysgrif sy'n ymwneud â storfeydd llongau

Atodlen 3, paragraff 4(3)

Difa neu ailddosbarthu yn unol â'r awdurdodiad

Annotations:
Commencement Information

I39Rhl. 39 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol40.

(1)

Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol, neu

(b)

unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2)

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Annotations:
Commencement Information

I40Rhl. 40 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Tramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig41.

(1)

Caniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir iddo gael ei gyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn enw'r bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(2)

At ddibenion achosion o'r fath—

(a)

mae rheolau llys sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau i gael effaith fel petai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn gorff corfforaethol;

(b)

mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 192522 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 198023 yn gymwys mewn perthynas â'r bartneriaeth neu'r gymdeithas fel maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(3)

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas o'u collfarnu am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(4)

Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei fod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(5)

At y dibenion hyn, mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy'n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

(6)

Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o'r gymdeithas, neu ei fod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r gymdeithas, bernir bod y swyddog hwnnw (yn ogystal â'r gymdeithas) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(7)

At y dibenion hyn, ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog o'r gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Annotations:
Commencement Information

I41Rhl. 41 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Cosbau42.

(1)

Mae person sy'n euog o dramgwydd ynghylch datgelu yn groes i reoliad 37(3) (datgelu gwybodaeth) yn agored i'r canlynol—

(a)

o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau;

(b)

o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, i ddirwy, neu i'r ddau.

(2)

Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn atebol o'i gollfarnu'n ddianod i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu yn atebol, o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Annotations:
Commencement Information

I42Rhl. 42 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Dirymu43.

(1)

Mae'r canlynol wedi eu dirymu—

(a)

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru24;

(b)

Rheoliadau Cig Ffres (Yr Amodau Mewnforio) 1996 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru25;

(c)

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) 1997 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru26;

(ch)

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 200627);

(d)

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 200728.

(2)

Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information

I43Rhl. 43 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd

Rheoliadau 5 a 15

Annotations:
Commencement Information

I44Atod. 1 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Deddfwriaeth yr UE

Pwnc

Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned29

Anifeiliaid buchol a moch

Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach mewn semen dwys-rewedig anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r semen hwnnw30

Semen buchol

Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu masnach mewn embryonau anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r embryonau hynny o drydydd gwledydd31

Embryonau buchol ffres

Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy'n gosod y gofynion iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r semen hwnnw32

Semen moch

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn defaid a geifr o fewn y Gymuned 33

Defaid a geifr

Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a osodir yn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC ac yn llywodraethu eu mewnforio i'r Gymuned34

Anifeiliaid a chynhyrchion eraill a bennir yn y Gyfarwyddeb

Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn cynhyrchion a mewnforion i'r Gymuned o gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodir yn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC35

Cynhyrchion amrywiol

Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC36

Gweddillion

Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd37

Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl

Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ar gyfer eu bwyta gan bobl38

Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl

Cyfarwyddeb y Cyngor 2004/68/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw penodol gyda charnau i'r Gymuned a chludo'r anifeiliaid hynny trwyddi39

Anifeiliaid byw penodol gyda charnau sy'n cynnwys gwartheg, geifr, defaid, moch

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn arolygfeydd ar ffin y Gymuned ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd40

Gwair a gwellt

Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd41

Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl

Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid42

Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl

Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl43

Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl

Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirio cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid44

Rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid, bwyd, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid

Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 183/2005 sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid45

Bwyd anifeiliaid

Penderfyniad y Comisiwn 2007/275 ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC46

Cynhyrchion cyfansawdd

Cyfarwyddeb y Cyngor 2006/88/EC ar y gofynion o ran iechyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu, ac ar atal a rheoli clefydau penodol mewn anifeiliaid dyfrol47

Anifeiliaid dyfrol

Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/156/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu symud a mewnforio equidae o drydydd gwledydd48

Equidae

Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd49

Dofednod ac wyau deor

Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 13 Gorffennaf 2009 ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a'i ddefnyddio50

Bwyd anifeiliaid

Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1069/2009 sy'n gosod rheolau iechyd mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nas bwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl51

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

ATODLEN 2Gofynion penodedig ar gyfer achosion unigol

Rheoliadau 8 a 25

RHAN 1Gofynion ychwanegol ar gyfer masnach rhwng Aelod-wladwriaethau

Masnachwyr gwartheg, defaid, moch neu eifr

1.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi mangre i weithredu fel canolfan grynhoi neu fangre masnachwr yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC (yn achos gwartheg a moch) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC (yn achos defaid a geifr).

(2)

Rhaid i'r awdurdodiad bennu'r masnachwr neu'r gweithredwr sy'n cael ei awdurdodi i weithredu'r fangre.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni bod y masnachwr neu'r gweithredwr yn mynd i weithredu'r fangre yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC neu Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC.

Annotations:
Commencement Information

I45Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr

2.

(1)

Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr rhwng Aelod-wladwriaethau gydymffurfio â'r paragraff hwn.

(2)

Rhaid i'r cludwr gael ei gymeradwyo, gan Weinidogion Cymru, at y diben hwn.

(3)

Rhaid i'r cludwr gadw cofrestr, ar gyfer pob cerbyd a ddefnyddiwyd i gludo'r anifeiliaid hynny, sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol;

(a)

mannau a dyddiadau codi'r anifeiliaid, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y daliad neu'r ganolfan grynhoi lle y mae'r anifeiliaid yn cael eu codi;

(b)

y mannau y danfonwyd hwy iddynt a dyddiadau eu danfon, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y traddodai;

(c)

rhywogaeth a nifer yr anifeiliaid a gludwyd;

(ch)

dyddiad a man y diheintio; a

(d)

rhifau adnabod unigryw y tystysgrifau iechyd sy'n mynd gyda'r anifeiliaid.

(4)

Rhaid cadw'r gofrestr am o leiaf dair blynedd.

(5)

Rhaid i'r cludwr sicrhau bod y cyfrwng cludo wedi ei adeiladu yn y fath fodd na fydd ysgarthion, sarn na bwyd anifeiliaid yn gallu gollwng na chwympo allan o'r cerbyd.

(6)

Rhaid i'r cludwr roi ymgymeriad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn nodi—

(a)

yn achos gwartheg neu foch, y cydymffurfir â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC, ac yn benodol, y darpariaethau a osodwyd yn Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno, a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno mewn perthynas â'r ddogfennaeth briodol y mae'n rhaid ei chael gyda'r anifeiliaid;

(b)

yn achos defaid a geifr, y cydymffurfir â Chyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC, ac yn benodol, y darpariaethau a osodwyd yn Erthygl 8c o'r Gyfarwyddeb honno, a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno mewn perthynas â'r ddogfennaeth briodol y mae'n rhaid ei chael gyda'r anifeiliaid; ac

(c)

y bydd gwaith cludo'r anifeiliaid yn cael ei roi yng ngofal staff sy'n meddu ar y gallu, y cymhwysedd proffesiynol a'r wybodaeth angenrheidiol.

Annotations:
Commencement Information

I46Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Ceffylau

3.

Caiff equidae sydd wedi eu cofrestru ac equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu sydd o dan gytundeb dwyochrog a wnaed o dan Erthygl 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/156/EC, ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu symud equidae a'u mewnforio o drydydd gwledydd, symud rhwng Aelod-wladwriaethau heb ardystiad iechyd na thystysgrif iechyd.

Annotations:
Commencement Information

I47Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Cynllun Iechyd Dofednod

4.

At ddibenion Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II iddi (sy'n sefydlu cynllun iechyd dofednod sy'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau)—

(a)

mae cymeradwyaeth ar gyfer sefydliadau a labordai yn cael ei rhoi gan Weinidogion Cymru;

(b)

rhaid i arolwg blynyddol o sefydliad a gymeradwywyd gael ei wneud gan filfeddyg a benodwyd at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, er mwyn i'r sefydliad aros ar y gofrestr.

Annotations:
Commencement Information

I48Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Cymeradwyaethau ar gyfer Cyfarwyddeb Balai

5.

(1)

Ni chaiff neb fasnachu epaod, (simiae a prosimiae) ac eithrio rhwng canolfan a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru a chanolfan a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys ar gyfer yr Aelod-wladwriaeth arall yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (“Cyfarwyddeb Balai”).

(2)

Rhaid i gorff sy'n ceisio cymeradwyaeth i ddefnyddio'r darpariaethau iechyd gwahanol a nodir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb Balai gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru atal, tynnu'n ôl neu adfer cymeradwyaethau yn is-baragraff (1) neu (2) yn yr amgylchiadau a nodir ym mhwynt 3 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo corff a awdurdodwyd i ymgymryd â masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau mewn semen, ofa ac embryonau yn unol ag Erthygl 11 o Gyfarwyddeb Balai os yw'r corff yn bodloni'r amodau sy'n gymwys iddo o ran cymeradwyaeth ac o ran cyflawni ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.

(5)

Drwy randdirymiad o is-baragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi corff, a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn, yn ysgrifenedig i gaffael epa (simiae a prosimiae) sy'n eiddo i unigolyn.

Annotations:
Commencement Information

I49Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Syrcasau

6.

(1)

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1739/2005 sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ar gyfer symud anifeiliaid syrcas rhwng Aelod-wladwriaethau52.

(2)

Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 8 o'r Rheoliad Comisiwn hwnnw (cadw cofnodion).

(3)

Er gwaethaf rheoliad 5(1) o'r Rheoliadau hyn, ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 10(1) o'r Rheoliad Comisiwn hwnnw (hysbysiad o symud).

Annotations:
Commencement Information

I50Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

7.

Dim ond yn unol ag Erthygl 48 y caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid y mae Erthygl 48 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 yn gymwys iddynt, eu traddodi i Aelod-wladwriaeth arall neu ddod â hwy i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall.

Annotations:
Commencement Information

I51Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

RHAN 2Darpariaethau ychwanegol mewn perthynas â mewnforion o drydydd gwledydd

Cyrraedd mangre cyrchu

8.

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i eliffantod ac i wartheg, moch, defaid, geifr ac i holl anifeiliaid eraill y taxa Artiodactyla, a'u croesfridiau.

(2)

Rhaid i anifeiliaid y bwriedir eu cigydda ar unwaith gael eu cludo heb oedi o'r arolygfa ffin i'r lladd-dy sydd ar ben y daith, a'u cigydda o fewn pum niwrnod gwaith.

(3)

Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r anifeiliaid gael eu cludo heb oedi o'r arolygfa ffin i'r daliad cyrchu, a'u cadw yno am o leiaf 30 o ddiwrnodau (oni bai eu bod wedi eu traddodi o ddaliad yn uniongyrchol i ladd-dy).

Annotations:
Commencement Information

I52Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Adar a fewnforir

9.

(1)

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid a'r gofynion cwarantîn ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i'r Gymuned53.

(2)

Rhaid i fewnforiwr gydymffurfio ag Erthygl 7 (cludo adar) o'r Rheoliad hwnnw.

(3)

Ni chaiff neb ryddhau aderyn o gwarantîn, ac eithrio yn unol ag Erthygl 16 (rhyddhau adar) o'r Rheoliad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I53Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Ceffylau

10.

Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio o drydedd wlad o dan Benderfyniad y Comisiwn 92/260/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiad milfeddyg ar gyfer derbyn ceffylau cofrestredig dros dro54, rhaid i'r milfeddyg swyddogol ddychwelyd y dystysgrif iechyd i'r person sy'n dod gyda'r ceffyl, a gwneud cofnod o'r dystysgrif.
Annotations:
Commencement Information

I54Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Storfeydd llongau

11.

Rhaid i'r dystysgrif y cyfeirir ati yn yr offeryn yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw fynd gyda chynnyrch nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion mewnforio ac sy'n cael ei anfon o arolygfa ffin i long, a rhaid i feistr y llestr gadarnhau traddodi'r cynnyrch drwy lofnodi'r dystysgrif a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2000/571/EC (sy'n gosod dulliau gwiriadau milfeddygol ar gyfer cynhyrchion o drydydd gwledydd sy'n mynd i gael eu cyflwyno i barthau rhydd, warysau rhydd, warysau'r gwasanaeth tollau neu weithredwyr sy'n cyflenwi cyfrwng cludo trawsffiniol ar fôr55) a'i dychwelyd i'r milfeddyg swyddogol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol i wneud hynny, yn yr arolygfa ffin.
Annotations:
Commencement Information

I55Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Ffioedd am wiriadau milfeddygol o Seland Newydd

12.

1.5 ewro ar gyfer pob tunnell o'r llwyth yw'r ffi am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth o Seland Newydd, yn ddarostyngedig i isafswm o 30 ewro ac uchafswm o 350 ewro, ac eithrio pan fo costau gwirioneddol y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn uwch na 350 ewro, swm y ffi a godir yw'r costau gwirioneddol.

Annotations:
Commencement Information

I56Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

ATODLEN 3Achosion nad yw Rhan 3 yn gymwys iddynt

Rheoliad 26

Datgymhwyso Rhan 3

1.

Nid yw Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn yr achosion a nodir yn yr Atodlen hon.

Annotations:
Commencement Information

I57Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Achos 1: Mewnforion personol a llwythi bychain

2.

Y cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a bennir yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i mewn i'r Gymuned56.
Annotations:
Commencement Information

I58Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Achos 2: Cyfrwng cludo rhyngwladol

3.

Cynhyrchion ar gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan y criw a'r teithwyr, ac sydd naill ai—

(a)

ddim yn cael eu dadlwytho;

(b)

yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol o un cyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol i un arall yn yr un porthladd ac o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau; neu

(c)

yn cael eu dinistrio cyn gynted ag y'u dadlwythir.

Annotations:
Commencement Information

I59Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Achos 3: Samplau masnach a samplau ar gyfer astudiaeth benodol neu ddadansoddiad

4.

(1)

Cynhyrchion a anfonir fel cynhyrchion masnach neu a fwriedir ar gyfer arddangosfeydd ar yr amod na fwriedir iddynt gael eu marchnata ac a awdurdodwyd ymlaen llaw ar gyfer y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(2)

Cynhyrchion a fwriedir ar gyfer astudiaethau penodol neu ddadansoddiadau ar yr amod nad oes bwriad i'r cynhyrchion hynny gael eu bwyta gan bobl ac a awdurdodwyd ymlaen llaw ar gyfer y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(3)

Pan fo'r arddangosfa wedi gorffen neu pan fo'r astudiaethau penodol neu ddadansoddiadau wedi eu gwneud, rhaid dinistrio'r cynhyrchion hyn, ac eithrio'r sypiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiadau, neu eu hailddosbarthu fel a bennir yn yr awdurdodiad mewnforio.

(4)

Nid yw'r achos hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch a reolir o dan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nas bwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (Rheoliad sgil-gynhyrchion Anifeiliaid) (nodir y rheolau ar gyfer y cynhyrchion hynny yn y Rheoliad hwnnw).

Annotations:
Commencement Information

I60Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Achos 4: Llwythi a gliriwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall

5.

Llwythi o anifeiliaid a chynhyrchion sydd wedi eu cyflwyno i arolygfa ffin mewn Aelod-wladwriaeth arall neu ran arall o'r Deyrnas Unedig, ac a gliriwyd ar gyfer cylchrediad rhydd.

Annotations:
Commencement Information

I61Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Achos 5: Cynhyrchion cyfansawdd

6.

(1)

Cynhyrchion cyfansawdd a deunyddiau bwyd a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC.

(2)

Cynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn cynnwys cig neu gynhyrchion cig, pan fo llai na hanner y cynnyrch yn gynnyrch wedi ei brosesu sy'n dod o anifeiliaid, ar yr amod bod cynhyrchion o'r fath—

(a)

yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol neu eu bod, wrth gael eu gweithgynhyrchu, yn amlwg wedi bod drwy broses gyflawn o goginio neu driniaeth â gwres drwy gyfanrwydd eu sylweddau, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi ei annatureiddio;

(b)

wedi eu dynodi'n glir y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl;

(c)

wedi eu pacio'n ddiogel neu wedi eu selio mewn cynwysyddion glân; ac

(ch)

bod dogfen fasnachol yn mynd gyda hwynt a'u bod wedi eu labelu mewn iaith swyddogol Aelod-wladwriaeth, fel bod y ddogfen honno a'r labelu gyda'i gilydd yn rhoi gwybodaeth ar natur, ansawdd a nifer y pecynnau o'r cynhyrchion cyfansawdd, gwlad eu tarddiad, y gweithgynhyrchydd a'r cynhwysyn.

Annotations:
Commencement Information

I62Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Achos 6: Anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i reolaeth y gynddaredd

7.

Anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cŵn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 197457 ac a fewnforir yn unol â thrwydded o dan y Gorchymyn hwnnw.
Annotations:
Commencement Information

I63Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

ATODLEN 4Diwygiadau canlyniadol

Rheoliad 43

Diwygio Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008

1.

Ar ôl rheoliad 19 o Reoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 200858 mewnosoder—
Annotations:
Commencement Information

I64Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

“RHAN 3AAllforion

19A.

(1)

Rhaid i berson beidio ag allforio unrhyw anifail, semen, ofwm neu embryo i drydedd wlad oni bai ei fod yn cydymffurfio â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007 ar weithredu'r rheolau ar gyfer Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC o ran rheoli, monitro, gwyliadwriaeth a chyfyngiadau ar symudiadau anifeiliaid penodol sydd o rywogaeth a allai ddal haint y tafod glas.

(2)

Caiff arolygydd, sydd ag achos rhesymol i amau bod person yn bwriadu allforio unrhyw anifail, semen, ofwm neu embryo yn groes i'r rheoliad hwn, wahardd yr allforio, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person hwnnw, cynrychiolydd y person hwnnw neu'r person yr ymddengys bod yr anifail, semen, ofwm neu embryo o dan ofal y person hwnnw, gan ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, fynd â'r anifail, semen, ofwm neu embryo i'r mannau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad a chymryd camau pellach mewn perthynas ag ef fel a bennir yn yr hysbysiad.

(3)

Os na chydymffurfir â'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2), caiff arolygydd ymafael yn unrhyw anifail neu beth y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.

Annotations:
Commencement Information

I65Atod. 4 para. 19A mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Diwygio Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980

2.

Mae Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 198059 i'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, wedi ei ddiwygio drwy fewnosod, ar ôl erthygl 1—

“Scope1A.

This Order does not apply in relation to any importation in relation to which the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011 apply.”.

Annotations:
Commencement Information

I66Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli'r wyth set o Reoliadau a bennir yn rheoliad 43.

Maent yn sefydlu system ar gyfer y fasnach mewn anifeiliaid byw a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau (Rhan 2) ac ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw, deunydd genetig a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (Rhan 3).

Mae deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd y mae'n ofynnol i gydymffurfio â hi, cyn y gall anifeiliaid neu nwyddau gael eu rhyddhau o reolaeth yn y porthladd mewnforio (yr “arolygfa ffin”), wedi ei rhestru yn Atodlen 1.

Fel cynt, mae Gweinidogion Cymru wedi eu galluogi (yn Rhan 4) i wahardd mewnforio unrhyw anifail neu gynnyrch i mewn i Gymru, os digwydd bod brigiad clefyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gorfodir y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru, awdurdodau iechyd porthladd, awdurdodau lleol ac Asiantaeth Ffiniau'r Deyrnas Unedig, yn yr amgylchiadau a geir yn rheoliad 32.

Mae'r Rheoliadau yn sefydlu tramgwyddau amrywiol, y gellid eu cosbi ar gollfarn ddiannod, drwy ddirwy hyd at yr uchafswm statudol, neu ar gollfarn drwy dditiad, gan ddirwy heb derfyn (neu, yn achos datgeliad mewn perthynas â gwybodaeth y tollau, carchariad o gyfnod hyd at dri mis).

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith newydd ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.