xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Mewnforio o drydedd wlad

Cwmpas y Rhan hon

9.  Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â mewnforio unrhyw anifail neu gynnyrch a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC i mewn i Gymru o wlad sydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys sefyllfa pan fydd y gyrchfan olaf y tu allan i Gymru.

Ystyr “DMMG”

10.  Ystyr “DMMG” (“CVED”) yw Dogfen Mynediad Milfeddygol Gyffredin a bennir yn—

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn arolygfeydd ar ffiniau'r Gymuned a hynny ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd(1); a

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 sy'n cyflwyno dogfen ar gyfer datgan yr anifeiliaid sy'n dod o drydydd gwledydd sy'n dod i mewn i'r Gymuned ac ar gyfer gwneud gwiriadau milfeddygol arnynt(2).

Arolygfa ffin

11.—(1Arolygfa ffin yw porthladd neu faes awyr, a gymeradwywyd fel y cyfryw gan y Comisiwn Ewropeaidd(3).

(2Os bydd Gweinidogion Cymru neu'r awdurdod lleol lle y lleolir yr arolygfa ffin o'r farn, ar unrhyw adeg, nad yw unrhyw ran o'r cyfleusterau arolygu yn yr arolygfa ffin bellach yn cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer cymeradwyo, caiff Gweinidogion Cymru neu'r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr sydd yn—

(a)pennu'r modd y torrwyd y gofynion;

(b)darparu terfyn amser o fewn pryd y mae'n rhaid cydymffurfio â'r amodau; ac

(c)gwahardd defnyddio'r rhan honno o'r cyfleusterau hyd nes y cydymffurfir â'r amodau cymeradwyo.

(3Os na chydymffurfir â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro y gymeradwyaeth mewn perthynas â'r rhan honno o'r cyfleusterau arolygu.

(4Os yw gweithredwr arolygfa ffin yn torri'r gofynion yn ddifrifol ar gyfer arolygfa ffin a geir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu(4)), neu bod amodau cymeradwyo, ac yn benodol, os yw'r ffordd mae arolygfa ffin yn gweithredu yn creu risg i iechyd pobl neu anifeiliaid, rhaid i Weinidogion Cymru atal eu cymeradwyaeth dros dro a hysbysu'r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill o'r ataliad dros dro a'r rheswm drosto.

Penodi milfeddygon swyddogol ac arolygwyr pysgod swyddogol

12.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru benodi milfeddygon sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn filfeddygon swyddogol ar gyfer unrhyw arolygfa ffin sydd wedi ei hawdurdodi i fewnforio anifeiliaid.

(2Rhaid i awdurdod lleol ar gyfer ardal ag arolygfa ffin, sydd wedi ei hawdurdodi i fewnforio cynhyrchion, benodi milfeddygon sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn filfeddygon swyddogol ar gyfer yr arolygfa honno.

(3Caiff penodiad o dan baragraff (2) gael ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na'r awdurdod lleol, os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer arolygfa ffin yn caniatáu mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unig.

(4Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer arolygfa ffin yn caniatáu mewnforio unrhyw gynnyrch (ac eithrio malwod) ar gyfer eu bwyta gan bobl, a restrir ym Mhennod 3 o Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC caiff y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol benodi swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn arolygwyr pysgod swyddogol ar gyfer yr arolygfa honno mewn perthynas â chynhyrchion pysgod a physgodfeydd, a bydd gan yr arolygydd hwnnw'r holl bwerau sydd gan filfeddyg swyddogol mewn perthynas â'r cynhyrchion hynny.

Man mewnforio

13.  Ni chaniateir dod ag anifail na chynnyrch i mewn i Gymru ac eithrio drwy arolygfa ffin sydd wedi ei ddynodi ar gyfer yr anifail neu'r cynnyrch hwnnw.

Hysbysiad am fewnforio

14.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth o anifeiliaid hysbysu'r arolygfa ffin pryd y bydd y llwyth yn cyrraedd, a hynny o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd.

(2Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth o gynhyrchion hysbysu'r arolygfa ffin ei fod wedi cyrraedd, cyn i'r llwyth gael ei ddadlwytho o'r cyfrwng cludo a ddaeth ag ef i Gymru.

(3Rhaid gwneud yr hysbysiad drwy gyflwyno'r DMMG gyda Rhan 1 wedi ei chwblhau.

(4Yn achos trawslwytho cynhyrchion i Aelod-wladwriaeth arall rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth hysbysu'r milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin lle mae'n cyrraedd, ar yr adeg pan fo'n cyrraedd, o'r canlynol—

(a)amcangyfrif o'r amser a gymerir i ddadlwytho'r llwyth;

(b)yr arolygfa ffin lle y mae'n mynd i gael ei wirio;

(c)lleoliad y llwyth; ac

(ch)bras amcan o'r amser gadael.

Gweithdrefn wrth fewnforio

15.—(1Pan fo llwyth wedi ei ddadlwytho, rhaid i'r person sy'n gyfrifol amdano, heb oedi rhesymol, drefnu iddo, yn ogystal â'r ddogfennaeth a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yn y ddeddfwriaeth berthnasol yn Atodlen 1, gael ei gyflwyno yng nghyfleusterau arolygu'r arolygfa ffin i alluogi gwneud y canlynol—

(a)y gwiriadau sy'n ofynnol gan Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu,

(b)y gwiriadau sy'n ofynnol gan Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 97/496/EEC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu(5), neu

(c)y rheolaethau swyddogol y cyfeirir atynt yn Erthygl 14(1) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y gwirir cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei gadarnhau(6).

(2Caiff milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad, i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, sy'n pennu amser rhesymol y bydd yn rhaid i'r llwyth gael ei gyflwyno i'w arolygu, a rhaid i'r person hwnnw gydymffurfio â'r fath hysbysiad.

(3Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wneud y gwiriadau a'r rheolaethau angenrheidiol a bennir ym mharagraff (1) a rhaid dyroddi DMMG yn caniatáu mynediad dim ond os yw'r canlynol wedi eu bodloni—

(a)bod y llwyth yn cydymffurfio â'r gofynion sy'n ymwneud ag ef yn yr offeryn perthnasol yn Atodlen 1;

(b)nad yw'r mewnforio wedi ei wahardd o dan baragraff (4); ac

(c)bod y ffi gywir ar gyfer y gwiriadau wedi cael ei thalu neu'n mynd i gael ei thalu.

(4Yn benodol, yn achos anifeiliaid byw rhaid i filfeddyg swyddogol beidio â dyroddi DMMG yn caniatáu mynediad—

(a)os yw'r anifeiliaid yn dod o diriogaeth neu ran o diriogaeth trydedd wlad nad yw wedi ei chynnwys yn y rhestri a luniwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y rhywogaeth dan sylw neu os gwaherddir mewnforion ohonynt o dan y ddeddfwriaeth honno;

(b)os yw'r anifeiliaid yn dioddef o glefyd heintus neu glefyd sy'n cyflwyno risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid neu os oes amheuaeth eu bod yn dioddef felly neu wedi eu heintio felly, neu unrhyw reswm arall a ddarperir ar ei gyfer yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

(c)os nad yw'r drydedd wlad sy'n allforio wedi cydymffurfio â'r gofynion a ddarperir ar eu cyfer yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

(ch)os nad yw'r anifeiliaid mewn cyflwr priodol i barhau ar eu taith;

(d)os nad yw'r dystysgrif filfeddygol neu'r ddogfen sy'n dod gyda'r anifeiliaid yn bodloni gofynion deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â mewnforion.

(5Os nad oes gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â'r llwyth, rhaid i'r milfeddyg swyddogol beidio â dyroddi DMMG oni bai bod y mewnforio wedi cael ei awdurdodi yn ysgrifenedig, gan Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn. Caiff Gweinidogion Cymru roi'r awdurdodiad dim ond pan fyddant wedi eu bodloni nad yw'r llwyth yn peri risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid nac i statws iechyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig.

(6Rhaid i'r milfeddyg swyddogol gadw'r dystysgrif wreiddiol sy'n dod gyda'r llwyth am dair blynedd (ac eithrio, os gwrthodwyd y llwyth rhaid i'r milfeddyg swyddogol ei stampio'n unol â hynny, dychwelyd y gwreiddiol i'r mewnforiwr a chadw copi ohoni am dair blynedd).

Symud llwyth o arolygfa ffin

16.—(1Ni chaiff neb symud llwyth o arolygfa ffin oni bai bod DMMG, a ddyroddwyd gan y milfeddyg swyddogol, yn dod gydag ef, a bod y symud yn unol â'r DMMG.

(2Rhaid i'r person sy'n ei gludo o'r arolygfa ffin sicrhau ei fod yn cael ei gludo i'r gyrchfan a bennir yn y DMMG a bod y DMMG gydag ef.

(3Nid yw hyn yn gymwys os yw'r llwyth wedi ei symud o arolygfa ffin o dan awdurdod y milfeddyg swyddogol.

Sianelu

17.  Yn achos cynnyrch, os yw blwch 30, 31, 33 neu 34 o'r DMMG yn ei gwneud yn ofynnol i lwyth gael ei gludo i gyrchfan benodol yn yr Undeb Ewropeaidd—

(a)rhaid i'r symud fod o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau os pennir hynny yn y DMMG; a

(b)rhaid i feddiannydd y fangre, wrth i'r llwyth gyrraedd, hysbysu Gweinidogion Cymru, ar unwaith, ei fod wedi cyrraedd.

Cyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig

18.—(1Mae'r rheoliad hwn yn ymwneud â llwyth y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru ond y bwriedir iddo fynd i gyrchfan olaf y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(2Yn achos anifail a draddodir i gyrchfan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r person sy'n hysbysu ei fod wedi cyrraedd, gyflwyno tystiolaeth ddogfennol y bydd y gyrchwlad yn derbyn yr anifail, a chaiff y milfeddyg swyddogol mewn arolygfa ffin, os na ddarperir y ddogfennaeth, wrthod derbyn yr anifail.

(3Yn achos cynhyrchion, caniateir i lwyth, y bwriedir iddo fynd i gyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac y daethpwyd ag ef i arolygfa ffin, gael ei gludo yn uniongyrchol o'r arolygfa ffin (yn achos maes awyr, rhaid iddo fod drwy'r awyr, ac yn achos porthladd, rhaid iddo fod ar y môr) i gyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig heb DMMG, os nad yw'n aros yn yr arolygfa ffin am fwy na 12 awr (yn achos maes awyr) neu saith niwrnod (yn achos porthladd).

(4Ond os bwriedir anfon y llwyth i gyrchfan yn yr Undeb Ewropeaidd, ac na chaniateir mewnforio'r cynnyrch i'r Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrthod y llwyth.

Llwythi nas gwiriwyd

19.  Rhaid i'r awdurdod gorfodi ymafael yn unrhyw lwyth—

(a)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru mewn modd gwahanol i ddod ag ef drwy arolygfa ffin a gymeradwywyd ar gyfer yr anifail neu'r cynnyrch hwnnw;

(b)sy'n cael ei symud o arolygfa ffin heb DMMG neu heb awdurdod y milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin; neu

(c)sy'n cael ei gludo o arolygfa ffin i gyrchfan wahanol i'r un a bennir yn y DMMG.

Camau yn dilyn methu â gwirio neu ymafaeliad — cynhyrchion

20.—(1Yn achos cynnyrch, os dengys y gwiriadau mewn arolygfa ffin nad yw'r llwyth yn bodloni'r amodau yn yr offeryn yn Atodlen 1, mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu afreoleidd-dra, rhaid i'r milfeddyg swyddogol, ar ôl ymgynghori â'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, wneud y canlynol—

(a)caniatáu i'r llwyth gael ei ddefnyddio fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cael eu bwyta gan bobl(7) ar yr amod nad oes unrhyw risg i iechyd pobl nac anifeiliaid;

(b)pan fo amodau iechyd yn caniatáu hynny, ei gwneud yn ofynnol bod y person sy'n gyfrifol am y llwyth, yn ailanfon y cynnyrch y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, o'r un arolygfa ffin, i gyrchfan y cytunwyd arni â'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, gan ddefnyddio'r un cyfrwng cludo o fewn terfyn amser o 60 o ddiwrnodau ar y mwyaf; neu

(c)os yw'r person sy'n gyfrifol am y llwyth yn cytuno'n syth, bod ailanfon yn amhosibl neu bod y terfyn amser o 60 diwrnod wedi mynd heibio, dinistrio'r cynhyrchion.

(2Pan fo'r person sy'n gyfrifol am y llwyth yn aros am ailanfon neu'n aros am gadarnhad o'r rhesymau dros wrthod y llwyth, rhaid iddo storio'r llwyth o dan oruchwyliaeth yr awdurdod gorfodi ar draul y person sy'n gyfrifol am y llwyth.

(3Os ymafaelir mewn llwyth o gynhyrchion y tu allan i arolygfa ffin o dan reoliad 19, rhaid i'r awdurdod gorfodi wneud y canlynol—

(a)cael gwared o'r llwyth fel deunydd Categori 1, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor; neu

(b)gweithredu yn unol ag is-baragraff (b) neu (c) o baragraff (1) o'r rheoliad hwn.

Llwythi o gynhyrchion sy'n debygol o beri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd dynol

21.  Os yw gwiriadau milfeddygol mewn arolygfa ffin yn dangos bod llwyth o gynhyrchion yn debygol o beri perygl i iechyd anifeiliaid neu i iechyd dynol, rhaid i'r milfeddyg swyddogol ymafael ynddo a'i ddinistrio ar unwaith, ar draul y person sy'n gyfrifol amdano.

Torri'r gyfraith yn ddifrifol neu'n fynych a thorri'r terfynau gweddillion uchaf

22.—(1Os yw gwiriadau milfeddygol mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth yn datgelu bod y cynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Undeb Ewropeaidd o drydedd wlad benodol, rhan o drydedd wlad neu sefydliad mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad mewnforio, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu bod y lefelau gweddillion uchaf yn uwch na'r hyn a ganiateir, mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r deng llwyth nesaf a gaiff eu dwyn i mewn i Gymru o'r drydedd wlad honno, rhan ohoni neu sefydliad ynddi.

(2Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wneud gwiriad ffisegol ar y cynnyrch, a chymryd samplau a'u dadansoddi.

(3Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi ernes i'r milfeddyg swyddogol, neu warant sy'n ddigonol i sicrhau taliad yr holl ffioedd, gan gynnwys cymryd samplau, a phrofion neu ddadansoddiad.

Camau yn dilyn methu â gwirio neu ymafaeliad — anifeiliaid

23.—(1Os yw'r gwiriadau mewn arolygfa ffin yn dangos nad yw anifail yn bodloni'r amodau yn y ddeddfwriaeth yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r anifail hwnnw, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu afreoleidd-dra, rhaid i'r milfeddyg swyddogol, ar ôl ymgynghori â'r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr, wneud y canlynol—

(a)darparu cysgod, porthiant a dŵr i'r anifail ac, os bydd angen, rhoi triniaeth iddo;

(b)os bydd angen hynny, ei roi mewn cwarantîn neu ei ynysu am ba hyd bynnag y bo'n angenrheidiol i sicrhau nad oes risg i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid; neu

(c)pan fo gofynion iechyd neu les anifeiliaid yn caniatáu hynny, ei ailanfon, o fewn y terfyn amser a osodir gan y milfeddyg swyddogol, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

(2Os yw ailanfon yn amhosibl, yn benodol oherwydd rhesymau lles, caiff y milfeddyg swyddogol drefnu i'r anifail gael ei gigydda.

(3Os yr ymafaelir mewn anifail o dan reoliad 19 rhaid i'r awdurdod gorfodi ei ynysu ac, wedi archwilio'r anifail, naill ai—

(a)rhyddhau'r anifail o gyfyngiad; neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gigydda neu ei ailallforio y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

(4Mae'r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr yn atebol am y costau yr eir iddynt yn y mesurau hyn, ond y mae ganddo'r hawl i werth anifail a gigyddwyd ar ôl i'r costau hyn gael eu tynnu ohono.

Apelau

24.  Caiff unrhyw berson, y mae penderfyniad y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 20 neu 23 yn ei dramgwyddo, apelio o fewn mis o'r penderfyniad i Lys Ynadon ar ffurf cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(8) yn gymwys i'r achos.

Gofynion ychwanegol mewn achosion penodol

25.  Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gwneud gofynion ychwanegol ar gyfer achosion penodol.

Eithrio

26.  Nid yw darpariaethau'r Rhan hon yn gymwys i achosion a bennir yn Atodlen 3.

Ailfewnforio cynhyrchion

27.—(1Rhaid i filfeddyg swyddogol wrth yr arolygfa ffin, awdurdodi ailfewnforio llwyth o gynhyrchion a darddodd o'r Undeb Ewropeaidd ac a wrthodwyd gan drydedd wlad, os daeth y canlynol gyda'r llwyth—

(a)y dystysgrif wreiddiol neu gopi a ddilyswyd gan yr awdurdod cymwys a oedd wedi dyroddi'r dystysgrif a ddaeth gyda'r llwyth, yn ogystal â manylion y rhesymau pam y'i gwrthodwyd a gwarant y cadwyd at yr amodau sy'n llywodraethu storio a chludo'r llwyth, gan nodi nad yw'r cynhyrchion sydd yn y llwyth wedi cael eu trafod mewn unrhyw fodd; neu

(b)yn achos cynwysyddion wedi eu selio, drwy dystysgrif gan y cludwr sy'n nodi nad yw'r cynnwys wedi ei drafod na'i ddadlwytho.

(2Rhaid i filfeddyg swyddogol wneud gwiriad dogfennol, gwiriad adnabod, ac, os oes angen hynny, gwiriad ffisegol.

(3Rhaid i'r mewnforiwr naill ai—

(a)cludo'r llwyth yn uniongyrchol i'r sefydliad tarddiad yn yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y dystysgrif, mewn cyfrwng cludo nad yw'n gollwng, a ddynodwyd ac a seliwyd gan y milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin fel bydd y seliau yn cael eu torri pa bryd bynnag yr agorir y cynhwysydd, neu

(b)dinistrio'r llwyth fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Derbyn cynhyrchion i warysau

28.  Ni chaiff neb ddod a llwyth o gynhyrchion nad yw'n cydymffurfio â gofynion mewnforio'r Rheoliadau hyn i warws mewn parth rhydd, warws rydd (fel y diffinnir “free zone” a “free warehouse” yn Nheitl IV, Pennod 3, Adran 1 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu Cod Tollau'r Gymuned(9)) na warws y tollau.

(1)

OJ Rhif L 21, 28.1.2004, t. 11 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 (OJ Rhif L 77, 24.3.2009, t.1).

(2)

OJ Rhif L 49, 19.2.2004, t. 11 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 585/2004 (OJ Rhif L 91, 30.3.3004, t. 17).

(3)

Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi rhestr o arolygfeydd ffin yn rheolaidd.

(4)

OJ Rhif L 24, 30.1.1998, t. 9 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/104/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t. 352).

(5)

OJ Rhif L 268, 24.9.1991, t. 56 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t. 40).

(6)

OJ Rhif L 165, 30.4.2004, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 208/2011 (OJ Rhif L 58, 3.3.2011, t. 29).

(7)

OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2010/63/EU (OJ Rhif L 276, 20.10.2010, t.4).

(9)

OJ Rhif L 302, 19.10.92, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.1).