Ffi am brofi hyfedredd labordy3
Mae'r ffi sy'n daladwy gan labordy cymeradwy am y profion hyfedredd canlynol a gynhelir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol o dan baragraff 2 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC (ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd3) fel a ganlyn.
Tabl 1
Prawf hyfedredd | Ffi(£) |
---|---|
Bacterioleg Salmonella (pullorum, gallinarum, arizonae) | 131 |
Seroleg Salmonella (pullorum, gallinarum) | 336 |
Seroleg ieir Mycoplasma (gallisepticum) | 336 |
Meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 281 |
Seroleg tyrcïod Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 336 |