Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 19 Hydref 2011.
Ffioedd mewn perthynas â'r cynllun iechyd dofednod2.
(1)
(a)
£62 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu
(b)
£70 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.
(2)
Os cyflawnir yr arolygiad blynyddol o dan y paragraff hwnnw gan swyddog Gweinidogion Cymru, y ffi am bob arolygiad (yn ychwanegol at y ffi flynyddol) yw—
(a)
£97 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu
(b)
£143 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.
(3)
Y ffi am gymeradwyo, o dan y paragraff hwnnw, labordy sy'n cynnal profion diagnostig ar gyfer aelodau o'r cynllun iechyd dofednod yw—
(a)
£13 am brosesu cais am gymeradwyaeth; a
(b)
£31 am brosesu dogfennaeth gofrestru flynyddol.
Ffi am brofi hyfedredd labordy3.
Prawf hyfedredd | Ffi(£) |
|---|---|
Bacterioleg Salmonella (pullorum, gallinarum, arizonae) | 131 |
Seroleg Salmonella (pullorum, gallinarum) | 336 |
Seroleg ieir Mycoplasma (gallisepticum) | 336 |
Meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 281 |
Seroleg tyrcïod Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 336 |
Amser talu4.
Mae'r ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir am y tâl.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y ffioedd am gymeradwyaethau at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t.74) a Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith newydd ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.