Offerynnau Statudol Cymru
2011 Rhif 2378 (Cy.251)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011
Gwnaed
28 Medi 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Medi 2011
Yn dod i rym
19 Hydref 2011
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 19 Hydref 2011.
Ffioedd mewn perthynas â'r cynllun iechyd dofednod
2.—(1) Y ffi am gymeradwyaeth at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(2) yw £60 am gymeradwyaeth ddechreuol, ynghyd â ffi flynyddol o—
(a)£62 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu
(b)£70 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.
(2) Os cyflawnir yr arolygiad blynyddol o dan y paragraff hwnnw gan swyddog Gweinidogion Cymru, y ffi am bob arolygiad (yn ychwanegol at y ffi flynyddol) yw—
(a)£97 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu
(b)£143 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.
(3) Y ffi am gymeradwyo, o dan y paragraff hwnnw, labordy sy'n cynnal profion diagnostig ar gyfer aelodau o'r cynllun iechyd dofednod yw—
(a)£13 am brosesu cais am gymeradwyaeth; a
(b)£31 am brosesu dogfennaeth gofrestru flynyddol.
Ffi am brofi hyfedredd labordy
3. Mae'r ffi sy'n daladwy gan labordy cymeradwy am y profion hyfedredd canlynol a gynhelir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol o dan baragraff 2 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC (ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(3)) fel a ganlyn.
Tabl 1
| Prawf hyfedredd | Ffi(£) |
|---|---|
| Bacterioleg Salmonella (pullorum, gallinarum, arizonae) | 131 |
| Seroleg Salmonella (pullorum, gallinarum) | 336 |
| Seroleg ieir Mycoplasma (gallisepticum) | 336 |
| Meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 281 |
| Seroleg tyrcïod Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 336 |
Amser talu
4. Mae'r ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir am y tâl.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2011
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y ffioedd am gymeradwyaethau at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t.74) a Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith newydd ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.
1973 p.51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74.
