RHAN 5Gorfodi
Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion gorfodi26
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth y mae awdurdod gorfodi neu berson awdurdodedig yn ei chael wrth orfodi'r Rheoliadau hyn.
2
Caiff y person hwnnw ddatgelu'r wybodaeth i unrhyw awdurdod gorfodi neu berson awdurdodedig cyffelyb (a benodwyd yn rhywle arall o fewn y Deyrnas Unedig i orfodi Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu'r UE) at ddibenion eu rôl orfodi.
3
At ddibenion y rheoliad hwn, mae “awdurdod gorfodi” (“an enforcement authority”) yn cynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd.