RHAN 5Gorfodi

Pwerau mynediad a phwerau ychwanegol

23.—(1Caiff person awdurdodedig, wrth ddangos awdurdod y person hwnnw os gofynnir amdano—

(a)mynd i mewn i fangre a'i harchwilio (ac eithrio tŷ annedd) ar bob adeg resymol;

(b)mynd â'r personau eraill hynny gydag ef ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau fel bo angen;

(c)gwneud yr archwiliad hwnnw neu'r ymchwiliad hwnnw fel bo angen;

(ch)cyfarwyddo y bydd y fangre, neu ran ohoni, yn cael ei gadael heb aflonyddu arni (p'un ai'n gyffredinol neu mewn agweddau penodol) am ba amser bynnag sy'n rhesymol angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(d)cymryd y mesurau hynny a'r ffotograffau hynny a gwneud y cofnodion hynny ag a ystyrir yn angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(dd)yn achos unrhyw eitem neu sylwedd a ganfyddir yn neu ar y fangre—

(i)cymryd samplau;

(ii)ei phrofi neu ei brofi neu ei gwneud neu ei wneud yn destun unrhyw broses, os yw'n ymddangos ei bod neu ei fod wedi peri niwed neu'n debygol o beri niwed i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid neu blanhigion;

(iii)cymryd meddiant ohoni neu ohono a'i chadw neu ei gadw cyhyd ag y bo'n angenrheidiol—

(aa)i'w harchwilio neu i'w archwilio ac arfer y pŵer o fewn paragraff (ii);

(bb)sicrhau nad oes neb yn ymyrryd â hi neu ag ef cyn cwblhau ei harchwilio neu ei archwilio; ac

(cc)sicrhau ei bod ar gael neu ei fod ar gael i'w defnyddio neu i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn;

(e)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion y mae'n angenrheidiol eu gweld at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c) yn cael eu dangos neu pan fo'r wybodaeth wedi ei chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol bod detholiad o'r cofnodion yn cael ei ddangos, ac archwilio a chymryd copïau o'r cofnodion hynny, neu unrhyw gofnod ynddynt;

(f)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi'r cyfleusterau hynny a'r cymorth hwnnw mewn perthynas ag unrhyw faterion neu bethau o dan reolaeth y person hwnnw neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas â hwy ag sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi'r person awdurdodedig i arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan y rheoliad hwn; neu

(ff)marcio unrhyw anifail neu sgil-gynnyrch anifail fel y mae'r person awdurdodedig yn ystyried ei fod yn angenrheidiol.

(2Pan fo person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer ym mharagraff (1)(dd)(ii), rhaid i'r person awdurdodedig—

(a)os gofynnir hynny gan berson sydd yn bresennol ar y pryd ac y mae ganddo gyfrifoldebau mewn perthynas â'r fangre honno, peri bod unrhyw beth sydd i'w wneud yn rhinwedd y pŵer hwnnw yn cael ei wneud ym mhresenoldeb y person hwnnw;

(b)ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ymddangos i'r person awdurdodedig bod hynny'n briodol at ddibenion canfod pa beryglon, os oes rhai, y gallai ddigwydd wrth wneud unrhyw beth y bwriedir ei wneud o dan y pŵer hwnnw.

(3Pan fo person awdurdodedig mewn perthynas â'r pŵer ym mharagraff (1)(dd)(iii)—

(a)yn bwriadu arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r person awdurdodedig, os yw'n ymarferol i wneud hynny, gymryd sampl o'r eitem neu'r sylwedd a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl wedi ei marcio mewn dull sy'n ddigonol i'w hadnabod; neu

(b)yn arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r person awdurdodedig adael hysbysiad sy'n rhoi manylion am yr eitem neu'r sylwedd sy'n ddigonol i ddynodi beth ydyw ac yn datgan bod meddiant wedi ei gymryd ohoni neu ohono, ac mae hysbysiad o'r fath i gael ei adael naill ai—

(i)gyda pherson cyfrifol; neu

(ii)os nad yw hynny'n ymarferol, wedi ei osod yn sownd mewn lle amlwg yn y fangre honno.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n gorfodi unrhyw berson i ddangos dogfen y byddai hawl gan y person hwnnw i'w dal yn ôl rhag ei dangos ar sail braint broffesiynol gyfreithiol dan orchymyn datgelu mewn achos yn yr Uchel Lys.