xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
28.—(1) Mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”)(1) wedi eu dirymu.
(2) Mae'r darpariaethau a ddirymwyd gan Reoliadau 2011 wedi eu hadfywio.
(3) Mae'r diwygiadau a wnaed gan ddarpariaethau Atodlen 2 i Reoliadau 2011 wedi eu dadwneud.
29. Mae'r offerynnau canlynol wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(2); a
(b)Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007(3).
30.—(1) Mae casglu, cludo a gwaredu deunydd Categori 3 yn Erthygl 10(f) o Reoliad Rheolaeth yr UE (deunydd Categori 3) wedi ei awdurdodi ar gyfer y cyfnod sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2012, pan fo gofynion paragraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Y gofynion yw—
(a)bod y deunydd yn bodloni Erthygl 36(3) o Reoliad Gweithredu'r UE a pharagraffau (a) i (c) o Bennod 4 o Atodiad 6 iddo; a
(b)bod y dull o waredu deunydd o'r fath, yn ychwanegol at y dull yn Erthygl 14 o Reoliad Rheolaeth yr UE (gwaredu a defnyddio deunydd Categori 3), yn gwaredu—
(i)mewn tirlenwi awdurdodedig heb brosesu ymlaen llaw; neu
(ii)pan fo Erthygl 21 o Reoliad Rheolaeth yr UE wedi ei bodloni, i safle bionwy neu safle compostio ar gyfer trawsffurfio yn unol ag awdurdodiad o dan baragraff 2 o Adran 2 o Bennod 3 o Atodiad 5 i Reoliad Gweithredu'r UE.
31.—(1) Mae rheoliad 28 yn dod i rym am 12.01a.m. ar 20 Hydref 2011.
(2) Mae gweddill y rheoliadau'n dod i rym am 12.15a.m. ar 20 Hydref 2011.