xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Gorfodi

Awdurdod gorfodi

21.—(1Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan y canlynol—

(a)yr awdurdod lleol;

(b)yr awdurdod iechyd porthladd mewn perthynas â dosbarth iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), neu

(c)Gweinidogion Cymru mewn perthynas â sefydliadau hylendid bwyd.

(2Nid yw paragraffau (1)(a) a (b) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo bod y ddyletswydd orfodi i'w harfer mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol gan Weinidogion Cymru.

(3Ym mharagraff (1)(a) ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno.

(4Ym mharagraff (1)(b) ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) yw'r awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw.

(5Ym mharagraff (1)(c), ystyr “sefydliad hylendid bwyd” (“food hygiene establishment”) yw sefydliad y cyfeirir ato yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(2) y mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd swyddogaethau gorfodi mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny.

Person awdurdodedig

22.  Caiff awdurdod gorfodi awdurdodi'n ysgrifenedig y personau hynny y mae'r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol i weithredu at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Pwerau mynediad a phwerau ychwanegol

23.—(1Caiff person awdurdodedig, wrth ddangos awdurdod y person hwnnw os gofynnir amdano—

(a)mynd i mewn i fangre a'i harchwilio (ac eithrio tŷ annedd) ar bob adeg resymol;

(b)mynd â'r personau eraill hynny gydag ef ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau fel bo angen;

(c)gwneud yr archwiliad hwnnw neu'r ymchwiliad hwnnw fel bo angen;

(ch)cyfarwyddo y bydd y fangre, neu ran ohoni, yn cael ei gadael heb aflonyddu arni (p'un ai'n gyffredinol neu mewn agweddau penodol) am ba amser bynnag sy'n rhesymol angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(d)cymryd y mesurau hynny a'r ffotograffau hynny a gwneud y cofnodion hynny ag a ystyrir yn angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(dd)yn achos unrhyw eitem neu sylwedd a ganfyddir yn neu ar y fangre—

(i)cymryd samplau;

(ii)ei phrofi neu ei brofi neu ei gwneud neu ei wneud yn destun unrhyw broses, os yw'n ymddangos ei bod neu ei fod wedi peri niwed neu'n debygol o beri niwed i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid neu blanhigion;

(iii)cymryd meddiant ohoni neu ohono a'i chadw neu ei gadw cyhyd ag y bo'n angenrheidiol—

(aa)i'w harchwilio neu i'w archwilio ac arfer y pŵer o fewn paragraff (ii);

(bb)sicrhau nad oes neb yn ymyrryd â hi neu ag ef cyn cwblhau ei harchwilio neu ei archwilio; ac

(cc)sicrhau ei bod ar gael neu ei fod ar gael i'w defnyddio neu i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn;

(e)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion y mae'n angenrheidiol eu gweld at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c) yn cael eu dangos neu pan fo'r wybodaeth wedi ei chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol bod detholiad o'r cofnodion yn cael ei ddangos, ac archwilio a chymryd copïau o'r cofnodion hynny, neu unrhyw gofnod ynddynt;

(f)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi'r cyfleusterau hynny a'r cymorth hwnnw mewn perthynas ag unrhyw faterion neu bethau o dan reolaeth y person hwnnw neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas â hwy ag sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi'r person awdurdodedig i arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan y rheoliad hwn; neu

(ff)marcio unrhyw anifail neu sgil-gynnyrch anifail fel y mae'r person awdurdodedig yn ystyried ei fod yn angenrheidiol.

(2Pan fo person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer ym mharagraff (1)(dd)(ii), rhaid i'r person awdurdodedig—

(a)os gofynnir hynny gan berson sydd yn bresennol ar y pryd ac y mae ganddo gyfrifoldebau mewn perthynas â'r fangre honno, peri bod unrhyw beth sydd i'w wneud yn rhinwedd y pŵer hwnnw yn cael ei wneud ym mhresenoldeb y person hwnnw;

(b)ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ymddangos i'r person awdurdodedig bod hynny'n briodol at ddibenion canfod pa beryglon, os oes rhai, y gallai ddigwydd wrth wneud unrhyw beth y bwriedir ei wneud o dan y pŵer hwnnw.

(3Pan fo person awdurdodedig mewn perthynas â'r pŵer ym mharagraff (1)(dd)(iii)—

(a)yn bwriadu arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r person awdurdodedig, os yw'n ymarferol i wneud hynny, gymryd sampl o'r eitem neu'r sylwedd a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl wedi ei marcio mewn dull sy'n ddigonol i'w hadnabod; neu

(b)yn arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r person awdurdodedig adael hysbysiad sy'n rhoi manylion am yr eitem neu'r sylwedd sy'n ddigonol i ddynodi beth ydyw ac yn datgan bod meddiant wedi ei gymryd ohoni neu ohono, ac mae hysbysiad o'r fath i gael ei adael naill ai—

(i)gyda pherson cyfrifol; neu

(ii)os nad yw hynny'n ymarferol, wedi ei osod yn sownd mewn lle amlwg yn y fangre honno.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n gorfodi unrhyw berson i ddangos dogfen y byddai hawl gan y person hwnnw i'w dal yn ôl rhag ei dangos ar sail braint broffesiynol gyfreithiol dan orchymyn datgelu mewn achos yn yr Uchel Lys.

Gwarant

24.—(1Os bydd, mewn perthynas â'r pŵer i fynd i mewn i fangre o dan reoliad 23, ynad heddwch, drwy wybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)wedi ei fodloni bod seiliau rhesymol dros gredu bod unrhyw wybodaeth neu ddeunydd yn berthnasol i'r archwiliad neu'r ymchwiliad o dan reoliad 23(1)(c) yn unrhyw fangre o'r fath; a

(b)wedi ei fodloni—

(i)bod mynediad i'r fangre honno wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre honno heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant, a fydd yn parhau mewn grym am gyfnod o fis, awdurdodi person awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, drwy ddefnyddio grym os yw hynny'n angenrheidiol.

(2Os bydd, mewn perthynas â thŷ annedd, ynad heddwch drwy wybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)wedi ei fodloni bod seiliau rhesymol dros gredu bod unrhyw wybodaeth neu ddeunydd yn berthnasol i'r archwiliad neu'r ymchwiliad at ddibenion gorfodi Rheoliad Rheolaeth yr UE, Rheoliad Gweithredu'r UE a'r Rheoliadau hyn mewn mangre o'r fath; a

(b)wedi ei fodloni bod—

(i)mynediad i'r fangre honno wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre honno heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant, a fydd yn parhau mewn grym am gyfnod o fis, awdurdodi person awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre honno, drwy ddefnyddio grym os yw hynny'n angenrheidiol, a'i harchwilio.

(3Pan fo person awdurdodedig wedi ei awdurdodi o dan baragraff (2) i fynd i mewn drwy warant, bydd gan y person awdurdodedig y pwerau yn rheoliad 23(1)(b) i (ff).

Hysbysiadau a gyflwynir gan berson awdurdodedig

25.—(1Caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) pan fo'r person hwnnw—

(a)yn ystyried bod gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid wedi ei dorri, neu fod methiant i gydymffurfio â'r gofyniad; neu

(b)yn rhesymol yn amau, o ganlyniad i dorri'r gofyniad hwnnw neu fethu â chydymffurfio ag ef, bod mangre yn peri risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid.

(2Caniateir i hysbysiadau gael eu cyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre, neu i'r person sydd â gofal am y fangre—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i waredu ac, os yw'n gymwys, storio'r canlynol cyn ei waredu—

(i)sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid;

(ii)deunydd mewn mangre y mae paragraff (1)(b) yn gymwys iddi;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i lanhau a diheintio mangre y mae paragraff (1)(b) yn gymwys iddi ac, os yw'n gymwys, pennu'r dull ar gyfer y glanhau a'r diheintio hwnnw;

(c)gwahardd sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid rhag y canlynol—

(i)cael eu symud neu eu cludo i mewn i'r fangre;

(ii)cael eu symud neu eu cludo i mewn i'r fangre oni wneir hynny'n unol ag amodau a bennir yn yr hysbysiad, gan gynnwys amod ynglŷn â chwblhau'n foddhaol y glanhau a'r diheintio yn unol â hysbysiad fel a ddarperir yn is-baragraff (b).

(3Rhaid cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) a hynny ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff person awdurdodedig drefnu cydymffurfedd ag ef ar draul y person hwnnw.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Erthygl 46(1) (ataliadau dros dro, tynnu'n ôl a gwaharddiadau ar weithrediadau) o Reoliad Rheolaeth yr UE yn gymwys.

Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion gorfodi

26.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth y mae awdurdod gorfodi neu berson awdurdodedig yn ei chael wrth orfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff y person hwnnw ddatgelu'r wybodaeth i unrhyw awdurdod gorfodi neu berson awdurdodedig cyffelyb (a benodwyd yn rhywle arall o fewn y Deyrnas Unedig i orfodi Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu'r UE) at ddibenion eu rôl orfodi.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae “awdurdod gorfodi” (“an enforcement authority”) yn cynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd.