2011 Rhif 2377 (Cy.250)

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 31

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, fel y'i darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi1.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd2.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid na fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC mewn cysylltiad â samplau ac eitemau penodol a eithrir o wiriadau milfeddygol wrth y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno3) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.