Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009.
Diwrnod penodedig2.
1 Chwefror 2012 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 22 o'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Y Gorchymyn hwn yw'r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym, ar 1 Chwefror 2012, adran 22 o'r Ddeddf (pŵer i wahardd gwerthiannau o beiriannau gwerthu) i'r graddau nad yw wedi ei dwyn i rym eisoes.
Mae'r darpariaethau o'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan y gorchymyn cychwyn O.S. 2010/930 (Cy.95) (C.63).
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
|---|---|
Adran 19 | 1.4.2010 (i'r graddau y mae'n berthynol i baragraffau 14 i 17 a 18 i 19 o Atodlen 3). |
Atodlen 3, paragraffau 14 i 17 | 1.4.2010. |
Atodlen 3, paragraffau 18 a 19 | 1.4.2010. |
Mae'r darpariaethau o'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif yr O.S. |
|---|---|---|
Adran 36 | 19.1.2010 | |
Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymiad mewn perthynas â Deddf Plant a Phobl Ifanc1933 (c. 12), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno. | 1.10.2011 | 2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49). |
Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymiad mewn perthynas ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (c. 36), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno. | 6.4.2012. | 2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49). |
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C.5); O.S. 2010/779 (C.52); O.S.2010/1068 (C.70); O.S. 2010/1863 (C.95) ac O.S.2011/1255 (C.49).