Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2362 (Cy.248) (C.83)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011

Gwnaed

27 Medi 2011

Yn dod i rym

1 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 40(2)(b) o Ddeddf Iechyd 2009(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009.

Diwrnod penodedig

2.  1 Chwefror 2012 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 22 o'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

27 Medi 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym, ar 1 Chwefror 2012, adran 22 o'r Ddeddf (pŵer i wahardd gwerthiannau o beiriannau gwerthu) i'r graddau nad yw wedi ei dwyn i rym eisoes.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r darpariaethau o'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan y gorchymyn cychwyn O.S. 2010/930 (Cy.95) (C.63).

DarpariaethDyddiad Cychwyn
Adran 191.4.2010 (i'r graddau y mae'n berthynol i baragraffau 14 i 17 a 18 i 19 o Atodlen 3).
Atodlen 3, paragraffau 14 i 171.4.2010.
Atodlen 3, paragraffau 18 a 191.4.2010.

Mae'r darpariaethau o'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

DarpariaethDyddiad CychwynRhif yr O.S.
Adran 3619.1.20102010/30 (C.5).
Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymiad mewn perthynas â Deddf Plant a Phobl Ifanc1933 (c. 12), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno.1.10.20112010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49).
Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymiad mewn perthynas ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (c. 36), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno.6.4.2012.2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49).

Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C.5); O.S. 2010/779 (C.52); O.S.2010/1068 (C.70); O.S. 2010/1863 (C.95) ac O.S.2011/1255 (C.49).