Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 14 Hydref 2011.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio2.
(1)
(2)
Yn rheoliad 3—
(a)
“ystyr “cylchlythyr iaith gyntaf” (“first language circular”) yw'r cylchlythyr “Casglu a chofnodi data am iaith gyntaf disgyblion”4 a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan y rhif cylchlythyr 001/2011;”;
(b)
“ystyr “cod iaith” (“language code”) yw'r prif godau ac is-godau ar gyfer y categorïau iaith safonol a bennir yn Atodiad A i'r cylchlythyr iaith gyntaf;”;
(c)
“mae i “cymhwyster perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;”; ac
(ch)
“ystyr “rhif unigryw dysgwr” (“unique learner number”), mewn perthynas â disgybl cofrestredig mewn ysgol, yw'r cyfuniad penodol o lythrennau a rhifau a ddyrannwyd i'r disgybl gan Brif Weithredwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau fel rhif unigryw dysgwr y disgybl hwnnw;”.
(3)
Yn rheoliad 5—
(a)
“(d)
yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau5;(dd)
unrhyw gorff a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf Addysg 1997 mewn perthynas â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol;
(e)
y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau; ac
(f)
unrhyw gorff a gydnabyddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau o dan adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 mewn perthynas â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster y mae Rhan 7 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo.”.
(4)
Yn Rhan 1 o Atodlen 2—
(a)
“(ng)
y rhif unigryw dysgwr, os yw'n hysbys.”; a
(b)
“17.
Pan fo'r disgybl yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol, datganiad pa un a yw lefel datblygiad y disgybl hwnnw mewn Saesneg o fewn—
(a)
categori A: newydd i'r Saesneg;
(b)
categori B: caffael cynnar;
(c)
categori C: datblygu cymhwysedd;
(ch)
categori CH: cymwys; neu
(d)
categori D: rhugl.
18.
Y cod iaith sy'n disgrifio orau iaith gyntaf y disgybl.”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 yn ei gwneud yn ofynnol bod corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg wedi i gais ysgrifenedig ddod i'w law oddi wrth yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol, yn cyflenwi pa bynnag wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.
Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2007, a Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny, yn rhagnodi'r wybodaeth y caniateir ei rhannu â phersonau a ragnodir o dan reoliad 5(2) o Reoliadau 2007. Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu paragraffau 17 ac 18 newydd at Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2007, a thrwy hynny'n ychwanegu at y rhestr ragnodedig o'r wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir ei rhannu (rheoliadau 2(2) a 2(4)).
Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2007 yn rhagnodi personau y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddynt o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod is-baragraffau (d) i (f) newydd yn rheoliad 5(2), a thrwy hynny'n ychwanegu at y rhestr ragnodedig o gyrff y caniateir darparu gwybodaeth iddynt am ddisgyblion unigol (rheoliad 2(3)).