Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2325 (Cy.242)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

20 Medi 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Medi 2011

Yn dod i rym

14 Hydref 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 14 Hydref 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(3) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)ar ôl y diffiniad o “cyfnod allweddol” yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “cylchlythyr iaith gyntaf” (“first language circular”) yw'r cylchlythyr “Casglu a chofnodi data am iaith gyntaf disgyblion”(4) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan y rhif cylchlythyr 001/2011;;

(b)ar ôl y diffiniad o “blwyddyn ysgol” mewnosoder—

ystyr “cod iaith” (“language code”) yw'r prif godau ac is-godau ar gyfer y categorïau iaith safonol a bennir yn Atodiad A i'r cylchlythyr iaith gyntaf;;

(c)ar ôl y diffiniad o “cyfnod allweddol” yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

mae i “cymhwyster perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;; ac

(ch)ar ôl y diffiniad o “Rhif unigryw disgybl” mewnosoder —

ystyr “rhif unigryw dysgwr” (“unique learner number”), mewn perthynas â disgybl cofrestredig mewn ysgol, yw'r cyfuniad penodol o lythrennau a rhifau a ddyrannwyd i'r disgybl gan Brif Weithredwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau fel rhif unigryw dysgwr y disgybl hwnnw;.

(3Yn rheoliad 5—

(a)ar ddiwedd paragraff (2) mewnosoder—

(d)yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau(5);

(dd)unrhyw gorff a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf Addysg 1997 mewn perthynas â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol;

(e)y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau; ac

(f)unrhyw gorff a gydnabyddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau o dan adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 mewn perthynas â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster y mae Rhan 7 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo..

(4Yn Rhan 1 o Atodlen 2—

(a)ar ddiwedd paragraff 1(g) mewnosoder—

(ng)y rhif unigryw dysgwr, os yw'n hysbys.; a

(b)ar ddiwedd paragraff 16 mewnosoder—

17.  Pan fo'r disgybl yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol, datganiad pa un a yw lefel datblygiad y disgybl hwnnw mewn Saesneg o fewn—

(a)categori A: newydd i'r Saesneg;

(b)categori B: caffael cynnar;

(c)categori C: datblygu cymhwysedd;

(ch)categori CH: cymwys; neu

(d)categori D: rhugl.

18.  Y cod iaith sy'n disgrifio orau iaith gyntaf y disgybl..

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Medi 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 yn ei gwneud yn ofynnol bod corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg wedi i gais ysgrifenedig ddod i'w law oddi wrth yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol, yn cyflenwi pa bynnag wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.

Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2007, a Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny, yn rhagnodi'r wybodaeth y caniateir ei rhannu â phersonau a ragnodir o dan reoliad 5(2) o Reoliadau 2007. Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu paragraffau 17 ac 18 newydd at Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2007, a thrwy hynny'n ychwanegu at y rhestr ragnodedig o'r wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir ei rhannu (rheoliadau 2(2) a 2(4)).

Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2007 yn rhagnodi personau y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddynt o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod is-baragraffau (d) i (f) newydd yn rheoliad 5(2), a thrwy hynny'n ychwanegu at y rhestr ragnodedig o gyrff y caniateir darparu gwybodaeth iddynt am ddisgyblion unigol (rheoliad 2(3)).

(1)

1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac fe'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 153 a diwygiwyd is-adran 1(a)(i) ymhellach gan O.S. 2010/1158.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Rhif ISBN 978 0 7504 5907 5.

(5)

Asiantaeth yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yw'r Asiantaeth Ariannu Sgiliau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources