Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2011
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2011. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Chwefror 2011.
Diwygiadau2.
(1)
(2)
“Gwenyn a fewnforir11.
(1)
Pan fo llwythi o famwenyn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/20103 yn cyrraedd y gyrchfan derfynol ddynodedig o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r traddodai—(a)
eu trosglwyddo i gewyll newydd yn unol ag Erthygl 13(1) o'r Rheoliad hwnnw; a
(b)
anfon y cewyll, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a'r deunyddiau eraill a ddaeth gyda'r mamwenyn hynny o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni i labordy yn unol ag Erthygl 13(2) o'r Rheoliad hwnnw.
(2)
Pan fo llwythi o gacwn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(b) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 yn cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r perchennog neu'r person sydd â gofal dros y cacwn hynny ddifa'r cynhwysydd a'r deunyddiau a ddaeth gyda hwy o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni yn unol â thrydydd paragraff Erthygl 13(3) o'r Rheoliad hwnnw.
(3)
Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 13(1) a (2) o'r Rheoliad hwnnw.
(4)
At ddibenion yr erthygl hon—
(a)
ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010” (“Commission Regulation (EU) No 206/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 sy'n gosod rhestrau o drydydd gwledydd, tiriogaethau neu rannau ohonynt sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer cyflwyno i'r Undeb Ewropeaidd anifeiliaid penodol a chig ffres a'r gofynion o ran tystysgrifau milfeddygol;
(b)
ystyr “y traddodai” (“the consignee”) yw'r traddodai a nodir ar y dystysgrif filfeddygol sy'n mynd gyda'r gwenyn yn unol ag Erthygl 7(4)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010; ac
(c)
mae i “cyrchfan derfynol ddynodedig” yr un ystyr yn yr erthygl hon ag ystyr “designated place of final destination” yn Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010.”.
(3)
Yn erthygl 12(1), ar ôl “pla hysbysadwy”, mewnosoder “neu glefyd hysbysadwy”.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006 (O.S. 2006/1710) (Cy.172) (“Gorchymyn 2006”). Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi yng Nghymru Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 sy'n gosod rhestrau o drydydd gwledydd, tiriogaethau neu rannau ohonynt sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer cyflwyno i'r Undeb Ewropeaidd anifeiliaid penodol a chig ffres a'r gofynion o ran tystysgrifau milfeddygol (OJ Rhif L 73, 20.3.2010, t.1, fel y'i darllenir ynghyd â'r Corigenda a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 146, 11.6.2010, t.1).
Mae Erthygl 13 o'r Rheoliad hwnnw yn gosod amodau sy'n gymwys yn sgil cyflwyno rhywogaethau penodol o famwenyn a chacwn (Apis mellifera a Bombus spp.) o drydydd gwledydd i Gymru.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio erthygl 12(1) o Orchymyn 2006 fel bod ei darpariaethau'n gymwys hefyd mewn achosion pan wyddys neu pan amheuir bod clefyd hysbysadwy yn bresennol.
Mae torri Gorchymyn 2006, fel y'i diwygir gan y Gorchymyn hwn, yn dramgwydd o dan adran 1(7) o Ddeddf Gwenyn 1980 (p. 12).
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.