Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2011

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 226 (Cy.44)

CLEFYDAU GWENYN, CYMRU

Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

1 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Chwefror 2011

Yn dod i rym

28 Chwefror 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1 o Ddeddf Gwenyn 1980(1).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2011. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Chwefror 2011.

Diwygiadau

2.—(1Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle erthygl 11 rhodder—

Gwenyn a fewnforir

11.(1) Pan fo llwythi o famwenyn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010(3) yn cyrraedd y gyrchfan derfynol ddynodedig o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r traddodai—

(a)eu trosglwyddo i gewyll newydd yn unol ag Erthygl 13(1) o'r Rheoliad hwnnw; a

(b)anfon y cewyll, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a'r deunyddiau eraill a ddaeth gyda'r mamwenyn hynny o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni i labordy yn unol ag Erthygl 13(2) o'r Rheoliad hwnnw.

(2) Pan fo llwythi o gacwn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(b) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 yn cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r perchennog neu'r person sydd â gofal dros y cacwn hynny ddifa'r cynhwysydd a'r deunyddiau a ddaeth gyda hwy o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni yn unol â thrydydd paragraff Erthygl 13(3) o'r Rheoliad hwnnw.

(3) Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 13(1) a (2) o'r Rheoliad hwnnw.

(4) At ddibenion yr erthygl hon—

(a)ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010” (“Commission Regulation (EU) No 206/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 sy'n gosod rhestrau o drydydd gwledydd, tiriogaethau neu rannau ohonynt sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer cyflwyno i'r Undeb Ewropeaidd anifeiliaid penodol a chig ffres a'r gofynion o ran tystysgrifau milfeddygol;

(b)ystyr “y traddodai” (“the consignee”) yw'r traddodai a nodir ar y dystysgrif filfeddygol sy'n mynd gyda'r gwenyn yn unol ag Erthygl 7(4)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010; ac

(c)mae i “cyrchfan derfynol ddynodedig” yr un ystyr yn yr erthygl hon ag ystyr “designated place of final destination” yn Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010..

(3Yn erthygl 12(1), ar ôl “pla hysbysadwy”, mewnosoder “neu glefyd hysbysadwy”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

1 Chwefror 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006 (O.S. 2006/1710) (Cy.172) (“Gorchymyn 2006”). Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi yng Nghymru Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 sy'n gosod rhestrau o drydydd gwledydd, tiriogaethau neu rannau ohonynt sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer cyflwyno i'r Undeb Ewropeaidd anifeiliaid penodol a chig ffres a'r gofynion o ran tystysgrifau milfeddygol (OJ Rhif L 73, 20.3.2010, t.1, fel y'i darllenir ynghyd â'r Corigenda a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 146, 11.6.2010, t.1).

Mae Erthygl 13 o'r Rheoliad hwnnw yn gosod amodau sy'n gymwys yn sgil cyflwyno rhywogaethau penodol o famwenyn a chacwn (Apis mellifera a Bombus spp.) o drydydd gwledydd i Gymru.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio erthygl 12(1) o Orchymyn 2006 fel bod ei darpariaethau'n gymwys hefyd mewn achosion pan wyddys neu pan amheuir bod clefyd hysbysadwy yn bresennol.

Mae torri Gorchymyn 2006, fel y'i diwygir gan y Gorchymyn hwn, yn dramgwydd o dan adran 1(7) o Ddeddf Gwenyn 1980 (p. 12).

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1980 p.12. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 1, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L 73, 20.3.2010, t.1 fel y'i cywirwyd yn OJ Rhif L 146, 11.6.2010, t.1 a'i ddiwygio gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 810/810 OJ Rhif L 243, 16.9.2010, t.16.