- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CLEFYDAU GWENYN, CYMRU
Gwnaed
1 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Chwefror 2011
Yn dod i rym
28 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1 o Ddeddf Gwenyn 1980(1).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2011. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Chwefror 2011.
2.—(1) Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 11 rhodder—
11.—(1) Pan fo llwythi o famwenyn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010(3) yn cyrraedd y gyrchfan derfynol ddynodedig o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r traddodai—
(a)eu trosglwyddo i gewyll newydd yn unol ag Erthygl 13(1) o'r Rheoliad hwnnw; a
(b)anfon y cewyll, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a'r deunyddiau eraill a ddaeth gyda'r mamwenyn hynny o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni i labordy yn unol ag Erthygl 13(2) o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Pan fo llwythi o gacwn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(b) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 yn cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r perchennog neu'r person sydd â gofal dros y cacwn hynny ddifa'r cynhwysydd a'r deunyddiau a ddaeth gyda hwy o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni yn unol â thrydydd paragraff Erthygl 13(3) o'r Rheoliad hwnnw.
(3) Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 13(1) a (2) o'r Rheoliad hwnnw.
(4) At ddibenion yr erthygl hon—
(a)ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010” (“Commission Regulation (EU) No 206/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 sy'n gosod rhestrau o drydydd gwledydd, tiriogaethau neu rannau ohonynt sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer cyflwyno i'r Undeb Ewropeaidd anifeiliaid penodol a chig ffres a'r gofynion o ran tystysgrifau milfeddygol;
(b)ystyr “y traddodai” (“the consignee”) yw'r traddodai a nodir ar y dystysgrif filfeddygol sy'n mynd gyda'r gwenyn yn unol ag Erthygl 7(4)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010; ac
(c)mae i “cyrchfan derfynol ddynodedig” yr un ystyr yn yr erthygl hon ag ystyr “designated place of final destination” yn Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010.”.
(3) Yn erthygl 12(1), ar ôl “pla hysbysadwy”, mewnosoder “neu glefyd hysbysadwy”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006 (O.S. 2006/1710) (Cy.172) (“Gorchymyn 2006”). Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi yng Nghymru Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 sy'n gosod rhestrau o drydydd gwledydd, tiriogaethau neu rannau ohonynt sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer cyflwyno i'r Undeb Ewropeaidd anifeiliaid penodol a chig ffres a'r gofynion o ran tystysgrifau milfeddygol (OJ Rhif L 73, 20.3.2010, t.1, fel y'i darllenir ynghyd â'r Corigenda a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 146, 11.6.2010, t.1).
Mae Erthygl 13 o'r Rheoliad hwnnw yn gosod amodau sy'n gymwys yn sgil cyflwyno rhywogaethau penodol o famwenyn a chacwn (Apis mellifera a Bombus spp.) o drydydd gwledydd i Gymru.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio erthygl 12(1) o Orchymyn 2006 fel bod ei darpariaethau'n gymwys hefyd mewn achosion pan wyddys neu pan amheuir bod clefyd hysbysadwy yn bresennol.
Mae torri Gorchymyn 2006, fel y'i diwygir gan y Gorchymyn hwn, yn dramgwydd o dan adran 1(7) o Ddeddf Gwenyn 1980 (p. 12).
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
1980 p.12. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 1, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
OJ Rhif L 73, 20.3.2010, t.1 fel y'i cywirwyd yn OJ Rhif L 146, 11.6.2010, t.1 a'i ddiwygio gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 810/810 OJ Rhif L 243, 16.9.2010, t.16.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: