Diwygiadau2

1

Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 20062 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle erthygl 11 rhodder—

Gwenyn a fewnforir11

1

Pan fo llwythi o famwenyn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/20103 yn cyrraedd y gyrchfan derfynol ddynodedig o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r traddodai—

a

eu trosglwyddo i gewyll newydd yn unol ag Erthygl 13(1) o'r Rheoliad hwnnw; a

b

anfon y cewyll, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a'r deunyddiau eraill a ddaeth gyda'r mamwenyn hynny o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni i labordy yn unol ag Erthygl 13(2) o'r Rheoliad hwnnw.

2

Pan fo llwythi o gacwn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(b) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 yn cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r perchennog neu'r person sydd â gofal dros y cacwn hynny ddifa'r cynhwysydd a'r deunyddiau a ddaeth gyda hwy o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni yn unol â thrydydd paragraff Erthygl 13(3) o'r Rheoliad hwnnw.

3

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 13(1) a (2) o'r Rheoliad hwnnw.

4

At ddibenion yr erthygl hon—

a

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010” (“Commission Regulation (EU) No 206/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 sy'n gosod rhestrau o drydydd gwledydd, tiriogaethau neu rannau ohonynt sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer cyflwyno i'r Undeb Ewropeaidd anifeiliaid penodol a chig ffres a'r gofynion o ran tystysgrifau milfeddygol;

b

ystyr “y traddodai” (“the consignee”) yw'r traddodai a nodir ar y dystysgrif filfeddygol sy'n mynd gyda'r gwenyn yn unol ag Erthygl 7(4)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010; ac

c

mae i “cyrchfan derfynol ddynodedig” yr un ystyr yn yr erthygl hon ag ystyr “designated place of final destination” yn Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010.

3

Yn erthygl 12(1), ar ôl “pla hysbysadwy”, mewnosoder “neu glefyd hysbysadwy”.